Tlodi Tanwydd

Tlodi Tanwydd

Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig (y Pwyllgor) ymchwiliad i dlodi tanwydd yng Nghymru.

Crynodeb

Roedd rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth Cymru (o dan Ymrwymiad Tlodi Tanwydd Cymru 2003, fel sy’n ofynnol yn ôl Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000) i ddileu tlodi tanwydd, hyd y bo’n rhesymol ymarferol, ym mhob aelwyd yng Nghymru erbyn 2018. Roedd ffigurau Llywodraeth Cymru yn 2016 yn amcangyfrif fod 23% o gartrefi Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae’r ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2019, yn dangos bod 12% o aelwydydd dal yn byw mewn tlodi tanwydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgynghori ar gynllun newydd i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn hydref 2019, gyda’r bwriad o gyhoeddi cynllun diwygiedig terfynol yn gynnar yn 2020.

Cylch gorchwyl

Bu’r Pwyllgor yn ystyreid y materion canlynol:

·         graddfa ac effeithiau tlodi tanwydd yng Nghymru;

·         pam na lwyddodd Llywodraeth Cymru i gyflawni ei tharged statudol i ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018;

·         sut mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru hyd yma wedi helpu i leihau tlodi tanwydd, yn arbennig, effaith y Rhaglen Cartrefi Clyd (sy’n cynnwys Arbed a Nyth) a Safon Ansawdd Tai Cymru;

·         sut y dylai strategaeth olynol Llywodraeth Cymru i’r strategaeth tlodi tanwydd (a fydd yn destun ymgynghoriad yn yr hydref 2019) fod yn wahanol i’w strategaeth yn 2010;

·         pa gamau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod cartrefi newydd, yn ogystal â chartrefi presennol, yn effeithlon iawn o ran ynni i’w hatal rhag achosi tlodi tanwydd yn y dyfodol.

 

Casglu tystiolaeth

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth gyda rhanddeiliaid i lywio ei waith, ar 8 Ionawr 2020; 22 Ionawr 2020 a 30 Ionawr 2020.

Ar 13 Chwefror 2020, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn tystiolaeth gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Yn dilyn y cyfarfod, ysgrifennodd (PDF 365KB) y Cadeirydd at y Gweinidogion, (ar 14 Chwefror 2020) am ymateb ysgrifenedig i gwestiynau na cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn oherwydd prinder amser. Ymatebodd (PDF 372KB) Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar 3 Mawrth 2020.

Gwnaeth y Pwyllgor ymgynghori ar y pwnc hwn hefyd. Mae'r ymatebion wedi cael eu cyhoeddi.

Adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Tlodi Tanwydd yng Nghymru (PDF 1646kb) ar 24 Ebrill 2020.

Ymatebodd (PDF 543KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 9 Mehefin 2020 a rhoddodd ymateb pellach (PDF 140KB) ar 22 Medi 2020.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/08/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau