Taliadau cadw yn y sector adeiladu
Taliadau cadw yn y sector adeiladu
Cynhaliodd y Pwyllgor
Cyllid a Phwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau ymchwiliad ar y cyd i daliadau cadw yn y diwydiant
adeiladu.
Mae'r system taliadau cadw yn rhan o’r sector adeiladu
ers dros 100 mlynedd ac mae'n arfer cytundebol a gyflwynwyd yn wreiddiol i
ddiogeli rhag gwaith diffygiol neu rhag ansolfedd cwmnïau adeiladu.
Mae'r rhan fwyaf o gontractau ac is-gontractau adeiladu’n
rhoi hawl i'r parti cyflogi neu'r cleient neu gontractwr gadw canran, tua 5 y
cant fel arfer, o werth y gwaith a wneir nes ei gwblhau neu y cywirir diffygion.
Mae ymchwil
gan Lywodraeth y DU yn dangos bod talu symiau a ddargedwir yn hwyr, os o
gwbl, a hynny’n ddigyfiawnhad, yn broblem fawr i rai contractwyr. Dangosodd yr
ymchwil hefyd fod oedi wrth dalu symiau a ddargedwir yn dod yn fwy arwyddocaol
ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi.
Archwiliodd y Pwyllgorau y defnydd o ddaliadau yng
Nghymru, a'r DU yn ehangach. Ystyriodd yr ymchwiliad y canlynol:
- i ba raddau y mae taliadau cadw’n broblem i gwmnïau â’u canolfan
a/neu'n gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys sut y gallai problemau fod yn
wahanol drwy'r gadwyn gyflenwi;
- a oes manteision i’r defnydd o daliadau cadw;
- dewisiadau amgen i’r defnydd o daliadau cadw a pha rôl a allai fod gan
Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu a darparu'r dewisiadau amgen hynny.
Yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ysgrifennodd
y pwyllgorau ar y cyd at y Gweinidog Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Llythyr
gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Sesiwn Dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Yr Athro Rudi Klein, Bargyfreithiwr, Pennaeth y Grŵp Contractwyr
Peirianneg Arbenigol (SEC) Catherine Griffith-Williams, Swyddog Gweithredol
Cenedlaethol Cymru, Grŵp SEC Kyle Spiller MCIOB, Cyfarwyddwr SAM
Drylines Ltd (yn cynrychioli Sefydliad Adeiladu Siartredig Cymru) Ifan Glyn, Uwch-gyfarwyddwr Hyb/Cyfarwyddwr Cymru,
Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr |
|
Gwyliwch
Sesiwn dystiolaeth 1 ar senedd,tv |
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/10/2019
Dogfennau
- Ymatebion
- RP 01 Grŵp SEC (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- RP 02 Scottish Futures Trust (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- RP 03 Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr (FMB) (Saesneg yn unig) PDF 403 KB
- RP 04 Unigolyn 1 (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- RP 05 Llywodraeth yr Alban (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- RP 06 Unigolyn 2 (Saesneg yn unig) PDF 633 KB
- RP 07 GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau (Saesneg yn unig) PDF 402 KB
- Llythyr at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru - 4 Mawrth 2020 PDF 404 KB
- Llythyr gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru PDF 261 KB