NDM7138 Dadl Plaid Cymru - Tâl ac amodau gweithwyr y GIG
NDM7138 Dadl Plaid Cymru - Tâl ac amodau gweithwyr y GIG
NDM7138 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at gynigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr i ymestyn sifftiau nyrsio heb dâl ar gyfer dros 4,000 o nyrsys a
gweithwyr cymorth gofal iechyd.
2. Yn ofni colli ewyllys da ymysg staff sydd eisoes yn
gweithio drwy eu cyfnodau egwyl neu sydd ar alwad ar eu wardiau neu eu hunedau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu tâl ac amodau
gweithwyr rheng flaen o fewn y GIG drwy sicrhau bod y cynnig atchweliadol hwn
yn cael ei ddiddymu.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gwerthfawrogi gweithlu’r GIG a’n trefniadau gwaith
partneriaeth gymdeithasol.
Yn disgwyl i holl gyrff y GIG weithio, ymgysylltu ac
ymgynghori gyda’u staff, eu hundebau llafur a chyrff cynrychiadol eraill ar
newidiadau gweithredol sy’n effeithio ar staff.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu ymhellach bod nifer y diwrnodau gwaith a
gollwyd o ganlyniad i straen a phroblemau'n ymwneud ag iechyd meddwl o fewn y
bwrdd iechyd wedi cynyddu 20 y cant ers 2014.
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn mynegi pryder na fydd y cynnig hwn o gymorth i forâl y
staff ac y bydd yn gosod disgwyliadau ychwanegol ar nyrsys a gweithwyr gofal
iechyd i aberthu eu cyfnodau egwyl cytundebol.
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 3, dileu 'drwy sicrhau' a rhoi yn ei le:
'ac i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
ymyrryd er mwyn sicrhau'
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/06/2021
Angen Penderfyniad: 18 Medi 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS