Ymchwiliad i’r achos busnes dros Un Corff Amgylcheddol

Ymchwiliad i’r achos busnes dros Un Corff Amgylcheddol

Ar 29 Tachwedd 2011, yn dilyn canlyniad yr achos busnes, cyhoeddodd John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu sefydlu un corff amgylcheddol newydd i Gymru. Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn cael eu huno er mwyn creu’r corff newydd. Nododd y Llywodraeth mai amcanion y corff fydd cyflanwi’r canlyniadau sydd wedi’u nodi yn Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol, sy’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd cynnal ymchwiliad byr a chryno er mwyn asesu a fydd yr achos busnes a lywiodd penderfyniad Llywodraeth Cymru i greu corff newydd yn llwyddo i gyflawni canlyniadau’r amgylchedd naturiol mae’r Llywodraeth am eu diogelu.

 

Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

 

  • asesu a yw’r achos busnes a gyflwynwyd er mwyn creu un corff amgylcheddol yn rhoi digon o ystyriaeth i’r canlyniadau eang sydd wedi’u nodi yn Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol;
  • asesu a yw’r achos busnes yn adlewyrchu’r costau a’r buddion sy’n gysylltiedig ag uno’r cyrff statudol presennol yn ddigonol;
  • dadansoddi a yw’r achos busnes yn rhoi digon o ystyriaeth i’r risgiau posibl sy’n gysylltiedig â chreu un corff amgylcheddol, gan gynnwys:

- y risgiau ariannol ac economaidd;

- y risgiau cyfreithiol a deddfwriaethol;

- y risgiau perfformiad;

- y risgiau atebolrwydd a thryloywder, a’r

- risgiau i enw da’r sefydliadau gwreiddiol;

  • asesu a yw’r achos busnes yn rhoi digon o sylw i farn rhanddeiliaid allweddol a effeithir arnynt gan y cynlluniau i greu un corff amgylcheddol.

 

Mae’r materion sydd wedi hystyried gan y Pwyllgor fel rhan o’r cylch gorchwyl hwn yn cynnwys:

 

  • y canlyniadau a’r amcanion mae Llywodraeth Cymru wedi’u nodi yn ei hystyriaethau ar gyfer fframwaith yr amgylchedd naturiol ac a yw’r achos busnes yn rhoi digon o sylw o’r math o gorff a fyddai orau ar gyfer cyflawni’r canlyniadau hyn;
  • y costau a’r buddion sydd wedi’u nodi yn yr achos busnes ar gyfer y gwahanol opsiynau ac a fyddai’r rhain yn ddigon cynhwysfawr a chadarn neu a ddylid rhoi ystyriaeth i faterion eraill;
  • a yw’r risgiau a nodwyd yn yr achos busnes yn ddigon eang a chynhwysfawr neu a oes risgiau ychwanegol sydd heb eu canfod;
  • barn rhanddeiliaid o’r achos busnes ac a ymgynghorwyd yn ddigonol â hwy wrth ei ddatblygu.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/11/2013

Dogfennau