NDM7143 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol
NDM7143 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol
NDM7143 David
Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r rhwydwaith cyfoethog ac amrywiol o seilwaith
diwydiannol hanesyddol ledled Cymru.
2. Yn nodi'r potensial o ran yr economi, adfywio a
thrafnidiaeth integredig o ail-agor hen linellau rheilffordd a thwneli segur
ledled Cymru.
3. Yn cydnabod yr heriau ymarferol ac ariannol o ddod â
seilwaith o'r fath yn ôl i ddefnydd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i anelu at gael
perchenogaeth ar seilwaith o'r fath a fyddai'n helpu i chwilio am gyfleoedd
ariannu.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i
chwarae eu rhan wrth archwilio'r cyfleoedd ymarferol ar gyfer ailagor seilwaith
o'r fath ledled Cymru.
Cyd-gyflwynwyr
Leanne
Wood (Rhondda)
Vikki
Howells (Cwm Cynon)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/06/2021
Angen Penderfyniad: 2 Hyd 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: David Rees AS