P-05-909 Hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru
P-05-909 Hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Isabella Evans, ar ôl casglu 4,914 o lofnodion ar-lein a 110 ar bapur, sef
cyfanswm o 5,024 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried
defnyddio iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru.
Rydw i'n chwaer 13 mlwydd oed i fachgen bach
sydd â Syndrom Down, sy'n defnyddio iaith Makaton yn bennaf. Rwyf wedi dysgu
iaith arwyddion Makaton er mwyn cyfathrebu â fy mrawd, ac oherwydd hyn,
penderfynais sefydlu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i helpu pobl eraill mewn
sefyllfaoedd tebyg i ddysgu. Roedd yn syndod i mi weld cymaint o alw gan bobl
sydd am ddysgu Makaton er mwyn cyfathrebu â ffrindiau ac aelodau teulu sydd ag
anawsterau dysgu.
Credaf y dylai gael ei gynnwys ym mhob ysgol yng
Nghymru ochr yn ochr ag addysgu bob dydd er mwyn caniatáu i bob plentyn ddysgu
i gyfathrebu drwy'r dull hwn.
Rwy'n angerddol dros gyflawni hyn ac yn credu ei
fod yn hawl sylfaenol i bob plentyn yng Nghymru ddysgu Makaton er mwyn chwalu
rhwystrau a chamsyniadau, a sicrhau cynhwysiant gwirioneddol yng Nghymru.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae llawer o
ymchwil wedi cael ei wneud i brofi pa mor effeithiol yw defnyddio symbolau ac
arwyddion er mwyn cynorthwyo pobl i ddatblygu sgiliau iaith a llythrennedd. Mae
canfyddiadau ymchwil presennol yn cefnogi'r defnydd o iaith arwyddion gydag
oedolion a phlant sydd ag anawsterau deallusol a chyfathrebu.
Mae astudiaeth hefyd
sy'n archwilio'r graddau y mae dysgu iaith arwyddion ochr yn ochr ag iaith
dramor yn ystod gwersi ieithoedd tramor modern yn helpu i gefnogi'r eirfa ar
lafar sy'n aros yn y cof.
Mae llawer o bapurau
ymchwil wedi'u cyhoeddi sy'n cefnogi defnyddio Makaton, gan gynnwys:-
- Birket, E.M. (1984)
- Colema, A. (2014)
- Cornforth, A.R.T.,
Johnson, K. Walker, M. (1974)
- Ford, J. (2006)
- Francis. (2000)
- Grove, N. (1980)
- Powell, G. (1999)
- Reed, A. (2014)
- Sheehy, K. Duffy, H.
(2009)
- Volpato, D. ,Orton,
D. and Blackburn, D. (1986)
- Walker, M. Armfield,
A. (1981)
Statws
Yn ei gyfarfod ar 10/03/2020 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Yng ngoleuni'r ymatebion oddi wrth y Gweinidog
Addysg, yn enwedig mewn perthynas â hyblygrwydd a natur y cwricwlwm newydd,
sy’n golygu mai’r ysgol sy’n arwain, cytunodd y Pwyllgor nad oes fawr ddim
pellach y gallai ei gyflawni ar hyn o bryd. Cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb
a llongyfarchwyd y deisebydd ar fod yn esiampl i bobl eraill wrth hybu Makaton
i gefnogi plant ag anawsterau cyfathrebu ac fe anogir iddi barhau i godi'r
cynnig, gan gynnwys gydag ysgolion lleol.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
19/11/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y
Cynulliad
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/11/2019