P-05-916 Adequate funding to protect the welfare of farm animals in Welsh slaughterhouses
P-05-916 Adequate funding to protect the welfare of farm animals in Welsh slaughterhouses
P-05-916 Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm
yn lladd-dai Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
David Grimsell, ar ôl casglu 110 o lofnodion ar-lein a 1,039 ar bapur, sef
cyfanswm o 1,149 o lofnodion
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu
cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm adeg eu lladd yng Nghymru.
Diben Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd
(Cymru) 2014 yw diogelu anifeiliaid adeg eu lladd. Er mwyn gwneud hynny, rhaid
i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) eu cymhwyso a'u gorfodi'n gywir, a rhaid bod
digon o gyllid iddi allu cyflawni ei dyletswyddau o dan y Rheoliadau.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu
dim ond £20,000 y flwyddyn i'r ASB ddiogelu lles anifeiliaid adeg eu lladd ar
draws o leiaf 23 o ladd-dai yng Nghymru, sydd gyda'i gilydd yn lladd degau o
filiynau o anifeiliaid bob blwyddyn. Mae'r swm hwn yn druenus ac yn gwbl
annigonol i dalu am yr holl waith gofynnol, gan gynnwys gwaith effeithiol i
fonitro arferion lles, ymchwiliadau, gorfodaeth, cyngor cyfreithiol, a'r staff
i wneud hynny. Mae faint sy'n cael ei ddarparu yn llawer is na'r hyn y mae'r
ASB ei hun wedi dweud (mewn papurau bwrdd) y mae ei angen arni i gyflawni ei
dyletswyddau mewn perthynas â lles anifeiliaid adeg eu lladd.
Daw cryn dystiolaeth o ymchwiliadau cudd mewn
lladd-dai mewn rhannau eraill o'r DU o dorri rheoliadau lles yn rheolaidd, a
bod llawer o anifeiliaid yn dioddef camdriniaeth. Nid oes rheswm dros gredu nad
yw'r risgiau hyn hefyd yn codi mewn lladd-dai yng Nghymru.
Mae gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl bod rheoliadau
lles yn drylwyr ac yn cael eu cymhwyso mewn ffordd gyson. Rhaid i Lywodraeth
Cymru adolygu ar fyrder ei chyllid i'r ASB at y diben hwn, a chynyddu'n
sylweddol y cyllid i ddiogelu lles anifeiliaid adeg eu lladd yn ddi-oed.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y rhestr gyfredol o ddadleuon y
gofynnwyd amdanynt a chytunodd i beidio â pharhau i geisio dadl ar ei adroddiad
ar P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai a P-05-916 Cyllid digonol i
ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym
mis Ionawr 2020 ond ni lwyddwyd i’w drafod bryd hynny. O ystyried faint o amser
sydd wedi mynd heibio, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr
am eu cyfraniad.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
19/11/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/11/2019
Dogfennau