P-05-919 Peidiwch â chyflwyno’r syniad i drwyddedu cŵn sioe, cathod sioe a cheffylau a ddangosir

P-05-919 Peidiwch â chyflwyno’r syniad i drwyddedu cŵn sioe, cathod sioe a cheffylau a ddangosir

Wedi'i gwblhau

 

P-05-919 Peidiwch â chyflwyno’r syniad i drwyddedu cŵn sioe, cathod sioe a cheffylau a ddangosir

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Our Dogs, ar ôl casglu cyfanswm o 4,241 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Reoliadau newydd ynghylch Arddangosfeydd Anifeiliaid sy'n cynnwys cynnig y bydd angen trwyddedu ac archwilio unrhyw un sy'n arddangos (dangos) ci neu gath (neu rywogaethau anifeiliaid anwes eraill) yng Nghymru. Mae miloedd o gŵn a chathod a cheffylau yn dod i Gymru bob blwyddyn i gael eu dangos felly mae cynllun trwyddedu o'r fath nid yn unig yn anymarferol ac yn ddiangen ond bydd hefyd yn cael effaith ar economi Cymru. Dylai cŵn (sydd wedi'u cofrestru gyda'r Kennel Club), cathod (sydd wedi'u cofrestru gyda'r Governing Council of the Cat Fancy) neu geffylau a ddangosir â llaw a chyda chyfrwy gael eu heithrio rhag cofrestru. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru ychwanegu 'cadw cŵn, cathod a cheffylau sy'n cymryd rhan mewn digwyddiadau cystadleuol' at Reoliad 3(4) sy'n rhestru nifer o weithgareddau eithriedig a gynigir na ddylent fod yn ddarostyngedig i'r cynllun trwyddedu arfaethedig.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

​​​Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn dangos eu cŵn ond yn bwysicach fyth mae miloedd lawer yn fwy o arddangoswyr yn dod i Gymru o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a Gogledd Iwerddon i gystadlu mewn sioeau a gynhelir yn y wlad. Nid oes ffigurau ar gael ar gyfer cathod na cheffylau ond mae dwy sioe bencampwriaeth fawr sydd rhyngddynt yn denu dros 11,000 o gŵn a thros 200 o sioeau agored bob blwyddyn sy'n denu cannoedd ym mhob un. Ni fydd perchnogion y cŵn hyn y tu allan i Gymru wedi'u trwyddedu ac felly ni fyddant yn gallu mynychu.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/12/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gŵyr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/11/2019