NDM7193 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol yng Nghymru
NDM7193 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol yng Nghymru
NDM7193 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar
Hosbisau a Gofal Lliniarol ar Anghydraddoldebau o ran Mynediad i Ofal Hosbis a
Gofal Lliniarol.
2. Yn cydnabod bod gan tua 23,000 o bobl yng Nghymru
angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys dros 1,000 o blant.
3. Yn cydnabod er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud o
ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru, bod anghenion
sylweddol sydd heb eu diwallu ac anghenion na fodlonwyd yn barhaus, ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) amlinellu sut y bydd Cymru'n dod yn 'wlad dosturiol';
b) sicrhau bod cryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal
lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i'r dull hwn o weithredu;
c) darparu meini prawf adrodd cyson, a mynd i'r afael â
bylchau yn y data a gaiff eu casglu ar anghenion gofal lliniarol i oedolion a
phediatrig;
d) diweddaru'r mecanwaith cyllido ar gyfer hosbisau
elusennol fel ei fod yn seiliedig ar y data sydd ei angen ar y boblogaeth leol
a nifer yr achosion;
e) cynyddu lefel y cyllid statudol a ddarperir i hosbisau
oedolion a phlant yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud o ran ehangu
mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru a bod angen gwneud rhagor
o waith i nodi unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu
Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru:
a) yn parhau i weithio gyda phartneriaid statudol a
phartneriaid yn y trydydd sector i gyflawni’r uchelgais o sicrhau mai Cymru yw
'gwlad dosturiol' gyntaf y byd;
b) yn sicrhau bod cryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau
gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i’r dull gweithredu
hwn;
c) yn darparu meini prawf adrodd cyson, ac yn mynd i’r
afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu am anghenion gofal lliniarol
oedolion a gofal lliniarol pediatrig;
d) yn parhau i fonitro’r dull cyllido ar gyfer hosbisau
elusennol gan weithio gyda’r bwrdd diwedd oes a’r byrddau iechyd;
e) yn parhau i fonitro ac adolygu’r cyllid a ddarperir i
hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
sicrhau bod gofalwyr yn cael y cymorth sydd ei angen
arnynt yn ystod ac ar ôl iddynt ofalu am rywun sy'n cael gofal lliniarol.
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau ar gael ym mhob rhan
o Gymru fel bod modd parchu dewisiadau'r unigolyn o ran y math o ofal lliniarol
a ddarperir, ynghyd â lleoliad y gofal hwnnw.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/06/2021
Angen Penderfyniad: 20 Tach 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS