Craffu ar strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru
Craffu ar strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru
Cefndir
Yn dilyn ei
phenodiad ar 13 Rhagfyr 2018, ymrwymodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau
Rhyngwladol i ddatblygu strategaeth ryngwladol ar gyfer Cymru. Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol wedi cymryd diddordeb brwd yn y gwaith hwn, sy’n cyd-fynd â’i
gylch gwaith ar Brexit.
Ym mis Chwefror
2019, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar berthynas Cymru ag Ewrop a’r byd yn
y dyfodol a galwodd ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth ryngwladol
uchelgeisiol newydd. Dylid ystyried ei waith pellach yn y maes hwn fel
cyd-destun i'r adroddiad hwn.
Datblygu
strategaeth ryngwladol ddrafft:
Yn y Cyfarfod
Llawn ar 3 Ebrill
2019, nododd y Gweinidog ei bwriad i gyhoeddi drafft o’r strategaeth cyn
haf 2019.
Ymddangosodd y
Gweinidog gerbron y Pwyllgor ar 10 Mehefin 2019
i ateb cwestiynau yn ymwneud â’r strategaeth. Yn dilyn y cyfarfod, ysgrifennodd
(PDF, 197KB) y Cadeirydd at y Gweinidog i ofyn am wybodaeth bellach, ac ymatebodd
(PDF, 258KB) y Gweinidog ar 9 Medi 2019.
Cyhoeddi
strategaeth ryngwladol ddrafft:
Cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru ei strategaeth
ryngwladol ddrafft (PDF, 2.51MB) ar 31 Gorffennaf 2019 a chynhaliodd
ymgynghoriad ar y ddogfen a ddaeth i ben ar 23 Hydref 2019.
Casglu tystiolaeth
Ymddangosodd y
Gweinidog unwaith eto ar 23
Medi 2019, ac yna ysgrifennodd
(PDF, 182KB) y Cadeirydd at a chafwyd ymateb
(PDF, 312KB) gan y Gweinidog.
Ar 21 Hydref 2019
cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth ford gron gydag academyddion ar y strategaeth
ryngwladol ddrafft.
Ymddangosodd y
Gweinidog gerbron y Pwyllgor ar 18 Tachwedd 2019
ar gyfer sesiwn graffu bellach, lle cyhoeddodd fod lansiad y strategaeth wedi’i
ohirio tan fis Ionawr 2020 oherwydd Etholiad Cyffredinol y DU ar 12 Rhagfyr
2019.
Cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru ei chrynodeb o’r ymatebion
i’r ymgynghoriad (PDF, 386KB) ar y strategaeth ryngwladol ddrafft ym mis Tachwedd
2019.
Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad
ar Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru ar 12 Rhagfyr 2019. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 5 Chwefror 2020. Trafodwyd yr
adroddiad a’r ymateb yn y Cyfarfod Llawn 4 Mawrth 2020.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/11/2019
Dogfennau
- Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Y Strategaeth Ryngwladol Ddrafft - 5 Chwefror 2020
- Adroddiad ar Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru - Rhagfyr 2019
- Gohebiaeth oddi wrth Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd ynghylch cais am ragor o wybodaeth yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 23 Medi 2019 - 5 Tachwedd 2019 PDF 312 KB
- Gohebiaeth oddi wrth y Cadeirydd at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gofyn am ragor o wybodaeth yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 23 Medi 2019 - 27 Medi 2019 PDF 182 KB
- Gohebiaeth oddi wrth Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd ynghylch strategaeth ryngwladol ddrafft Llywodraeth Cymru - 9 Medi 2019 PDF 258 KB
- Gohebiaeth oddi wrth y Cadeirydd at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gofyn am ragor o wybodaeth yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 10 Mehefin 2019 - 24 Gorffennaf 2019 PDF 197 KB