P-05-929 Annog y defnydd o 'Cymru' a 'Cymry' wrth gyfeirio atom ein hunain yn y Gymraeg a'r Saesneg
P-05-929 Annog y defnydd o 'Cymru' a 'Cymry' wrth gyfeirio atom ein hunain yn y Gymraeg a'r Saesneg
P-05-929 Annog y defnydd o 'Cymru' a 'Cymry' wrth
gyfeirio atom ein hunain yn y Gymraeg a'r Saesneg
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mair
Edwards, ar ôl casglu cyfanswm o 127 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i
annog Llywodraeth Cymru i gyfeirio at ein gwlad fel Cymru, a'r genedl fel
Cymry, yn y Gymraeg a'r Saesneg ym mhob datganiad swyddogol. Mae tarddiad y
termau "Wales" a "Welsh" yn cyfeirio atom fel estroniaid a
thaeogion yn ein gwlad ein hunain. Mae'n bryd i ni ddiffinio ein hunain yn
hytrach na chael ein diffinio gan genedl arall - a symbol o hynny fyddai
cyfeirio atom ein hunain fel Cymry a'n gwlad fel Cymru.
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 06/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol sydd wedi dod i law a chytunodd i gau’r
ddeiseb, o gofio bod Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi
datgan nad yw hi’n cefnogi camau i fabwysiadu polisi cyffredinol ynghylch
defnyddio’r termau hyn, er y byddai’n cefnogi camau i’w defnyddio fel y bo’n
briodol. Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ddiolch i’r deisebwyr am ddwyn sylw at y
mater hwn.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/01/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ynys Mon
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2020