Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yng Nghymru
Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yng Nghymru
Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yr Adroddiad
hwn ar 22 Hydref 2019.
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y prif faterion a
meysydd cynnydd a ganfuwyd mewn gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru ar
lefel genedlaethol. Mae gofal sylfaenol yn cwmpasu ystod eang o wasanaethau, a
ddarperir gan feddygon teulu, fferyllwyr, deintyddion, optometryddion a
gweithwyr proffesiynol o’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol.
Canfu’r Adroddiad, er gwaethaf buddsoddiad sylweddol a
llawer o gynlluniau ar gyfer trawsnewid gofal sylfaenol dros y blynyddoedd, nid
yw’r newid wedi digwydd mor gyflym na mor eang ag y bwriadwyd ac, er bod y GIG
a Llywodraeth Cymru yn cymryd ystod o gamau i gryfhau gofal sylfaenol, mae
angen i newidiadau ddigwydd yn gyflymach ac ar raddfa fwy er mwyn mynd i’r
afael â heriau hirsefydlog a sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn addas at y
diben.
Bydd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystyried yr Adroddiad ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2020 ac yn penderfynu a ddylid cynnal
ymchwiliad.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/12/2019