NDM7218 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysg Ysgol
NDM7218 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysg Ysgol
NDM7218 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniadau PISA 2018 y Sefydliad ar gyfer
Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
2. Yn gresynu:
a) na fu unrhyw welliant ystadegol sylweddol yn sgoriau
PISA Cymru mewn darllen a mathemateg ers 2006;
b) bod sgoriau Gwyddoniaeth Cymru yn sylweddol waeth nag
yn 2006;
c) bod Cymru wedi'i gosod ar waelod gwledydd y DU mewn
darllen, mathemateg a gwyddoniaeth;
d) mai Cymru yw'r unig genedl yn y DU sydd â sgôr is na
chyfartaledd yr OECD ym mhob un o fesurau PISA.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydnabod ei methiant i wella addysg yng Nghymru;
b) ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu
siomi;
c) gwarantu bod adnoddau ychwanegol yn deillio o wariant
ychwanegol ar ysgolion gan Lywodraeth y DU yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion
yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi mai Cymru yw'r unig genedl yn y DU i wella ym
mhob maes.
Yn croesawu:
a) sgoriau gorau Cymru erioed mewn darllen a mathemateg,
a gwelliant mewn gwyddoniaeth;
b) gostyngiad yn y bwlch rhwng ein dysgwyr mwyaf
difreintiedig a'u cyfoedion;
c) gwelliant ym mherfformiad myfyrwyr uchel eu
perfformiad.
Yn credu bod y gwelliant yn sgoriau PISA yn brawf o waith
caled athrawon a disgyblion ledled Cymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant
2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) barhau ar y trywydd o ddiwygio’r cwricwlwm newydd a
gadael iddo wreiddio fel rhan o’r ymgais i godi safonau;
b) gwarantu bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael i
ysgolion er mwyn gallu gwella amodau gwaith athrawon ac i ddenu mwy o athrawon
newydd i’r proffesiwn.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 11 Rhag 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS