Ethol Senedd fwy amrywiol

Ethol Senedd fwy amrywiol

Cynhaliodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ymchwiliad i edrych yn fanwl ar argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad sy’n ymwneud â mesurau gwirfoddol a deddfwriaethol i annog ethol Senedd fwy amrywiol, drwy:

*        Edrych yn fanwl a ddylai fod yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi gwybodaeth ddienw am amrywiaeth eu hymgeiswyr yn etholiadau y Senedd, a’r goblygiadau ymarferol y byddai hyn yn arwain atynt;

*        Ystyried egwyddorion a goblygiadau ymarferol argymhelliad y Panel y dylid integreiddio cwotâu rhywedd ymgeiswyr yn ddeddfwriaethol yn system etholiadol y Senedd, ac unrhyw gamau gwirfoddol y gallai pleidiau eu cymryd i gynyddu amrywiaeth eu hymgeiswyr etholiadol ar draws yr ystod lawn o nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010;

*        Edrych yn fanwl ar faterion yn ymwneud ag argymhelliad y Panel y dylid caniatáu i bobl sefyll mewn etholiad ar sail rhannu swyddi, gan gynnwys y goblygiadau o ran atebolrwydd democrataidd ac unrhyw ystyriaethau ymarferol y byddai angen mynd i’r afael â hwy.

Adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf (PDF, 5MB) ym mis Medi 2020. Hefyd, cyhoeddodd grynodeb o'i argymhellion (PDF, 113KB).

Tystiolaeth gan y cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad fel rhan o’i ymchwiliad rhwng 11 Mawrth 2020 a 21 Mai 2020.

Gweithgaredd ymgysylltu

Cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad i randdeiliaid ar 10 Chwefror 2020. Cyhoeddwyd cofnod o’r materion a drafodwyd (PDF, 131KB).

Tystiolaeth lafar

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Comisiwn y Senedd

Elin Jones AS, y Llywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Anna Daniel, Comisiwn y Senedd

Matthew Richards, Comisiwn y Senedd

2 Rhagfyr 2019

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio ar Senedd.tv

2. Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru

Ruth Coombs, Pennaeth y Comisiwn yng Nghymru

13 Ionawr 2020

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio ar Senedd.tv

3. Academyddion

Yr Athro Rosie Campbell, Kings College London

Dr Nicole Martin, The University of Manchester

13 Ionawr 2020

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio ar Senedd.tv

4. Y Bwrdd Taliadau

Dawn Primarolo, Cadeirydd y Bwrdd Taliadau

Anna Daniel, Uwch-gynghorydd i’r Bwrdd Taliadau

20 Ionawr 2020

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio ar Senedd.tv

5. Llywodraeth Cymru

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Democratiaeth Llywodraeth Leol

Elaina Chamberlain, Pennaeth Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol

27 Ionawr 2020

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio ar Senedd.tv

6. Rhannu swyddi ymysg cynrychiolwyr etholedig

Yr Athro Sarah Childs, Birkbeck, Prifysgol Llundain

Y Cynghorydd Mary Sherwood, Cyngor Dinas a Sir Abertawe

Dr bob Watt

3 Chwefror 2020

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio ar Senedd.tv

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/01/2020

Dogfennau

Ymgynghoriadau