Systemau a ffiniau etholiadol

Systemau a ffiniau etholiadol

Cynhaliodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ymchwiliad i edrych yn fanwl ar argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn ymwneud â systemau a ffiniau etholiadol, a’r egwyddorion sy’n eu cefnogi, drwy:

*      Edrych yn fanwl ar oblygiadau’r systemau a ffiniau etholiadol a argymhellir gan y Panel Arbenigol ar gyfer cynrychiolaeth ddemocrataidd yng Nghymru, ac ystyried sut y gallai’r egwyddorion a nodwyd gan y Panel Arbenigol gael eu pwysoli i sicrhau bod trefniadau etholiadol y Senedd yn briodol i gyd-destun Cymru;

*      Edrych ar ymdeimlad a dealltwriaeth y cyhoedd o drefniadau a ffiniau etholiadol cyfredol y Senedd a’r opsiynau a argymhellir gan y Panel Arbenigol;

*      Ystyried y goblygiadau i bleidiau gwleidyddol yng Nghymru o newid y system etholiadol a’r model ffiniau;

*      Edrych yn fanwl ar egwyddorion ac ymarferoldeb sefydlu trefniadau adolygu ffiniau ar gyfer ardaloedd etholiadol y Senedd;

*      Ystyried y goblygiadau o ran cost ac adnoddau diwygio’r system etholiadol a ffiniau’r Senedd.

Adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf (PDF, 5MB) ym mis Medi 2020. Hefyd, cyhoeddodd grynodeb o'i argymhellion (PDF, 113KB).

Ymwneud â’r cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 8 Ionawr a 19 Chwefror 2020.

Tystiolaeth lafar

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

Academyddion

Yr Athro Roger Awan-Scully, Prifysgol Caerdydd

Jess Blair, Cymdeithas Diwygio Etholiadol

16 Mawrth 2020

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio ar Senedd.tv

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/01/2020

Dogfennau

Ymgynghoriadau