Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft

Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymgynghoriad ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft.

 

Roedd hyn yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i drafod cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

 

Ym mis Rhagfyr 2019, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Trafodaeth o’r cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (PDF, 2.7MB), a chytunodd i gynnal ymgynghoriad ar Fil Drafft, gyda’r bwriad o’i gyhoeddi yn ystod y Bumed Senedd. Mae'r Bil Drafft yn ceisio diwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 er mwyn mynd i’r afael â materion a nodwyd yn ystod gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol y Pwyllgor ar y Ddeddf.

 

O ystyried yr amser cyfyngedig a oedd yn weddill yn y Bumed Senedd a phandemig y coronafeirws, nid oedd y Pwyllgor yn gallu cyflwyno'r Bil. Yn lle, cyflwynodd adroddiad ar ganlyniad ei ymgynghoriad (PDF, 915KB) ac argymhellodd y dylai un o bwyllgorau'r Chweched Senedd yn y dyfodol gyflwyno'r Bil.

Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/12/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau