P-05-936 Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed
P-05-936 Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed
P-05-936 Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74
oed
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Andrew Lye, ar ôl casglu cyfanswm o 69 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae'r GIG yn Lloegr, yr Alban a Chymru yn cynnig
prawf sgrinio Canser y Coluddyn bob 2 flynedd i rai rhwng 60 a 74 oed.
Yn Lloegr a'r Alban, gallwch wneud cais am becyn
sgrinio bob dwy flynedd ar ôl 74 oed. NID yw hyn ar gael i'r rhai dros 74 oed
yng Nghymru.
Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i Lywodraeth Cymru
sicrhau bod profion sgrinio canser y coluddyn ar gael fel y mae yn Lloegr a'r
Alban.
Mae dod â'r profion sgrinio i ben yn 74 oed yng
Nghymru yn awgrymu nad ydym yn gwerthfawrogi ein henoed yn yr un ffordd ag y
maent yn gwneud yn Lloegr a'r Alban.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu
hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed
Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater
hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/11/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Preseli Sir Benfro
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses
ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2020