Cyfarwyddyd Gweinidogol – Trefniadau pensiwn y GIG ar gyfer 2019/20
Cyfarwyddyd Gweinidogol – Trefniadau pensiwn y GIG ar gyfer 2019/20
Cyhoeddodd y Prif Weinidog Gyfarwyddyd Gweinidogol ar 18
Rhagfyr 2019 er mwyn bod GIG Cymru yn cydymffurfio ag ateb GIG Lloegr ar gyfer
2019/20 i fynd i’r afael â’r heriau gweithredol sy’n codi o ganlyniad i’r
trefniadau presennol ar gyfer trethi pensiynau. Nid yw cynllun pensiwn y GIG
a’r ddeddfwriaeth ar drethi pensiynau wedi’u datganoli i Gymru.
Cododd yr angen am Gyfarwyddyd Gweinidogol gan mai cynllunio trethi yw’r cynllun
arfaethedig ac felly cododd y mater o reoleidd-dra gan nad yw’n gydnaws â
pharagraff 5.6.1 o Reoli Arian Cyhoeddus Cymru. Cafwyd yr un mater o
reoleidd-dra yn Lloegr.
Bu’r Pwyllgor yn craffu ar Ysgrifennydd Parhaol
Llywodraeth Cymru ar 3 Chwefror 2020 ar y gweithred yma a’i dyraniad cyllid, ac
fe fydd yn monitro’r mater yn ystod ei sesiynau craffu blynyddol ar Gyfrifon
Cyfunol Llywodraeth Cymru.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/12/2019
Dogfennau
- Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru - 23 Ebrill 2020 PDF 479 KB
- Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru - 31 Mawrth 2020 PDF 274 KB
- Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru - 11 Chwefror 2020 PDF 220 KB
- Llythyr gan Y Gweinidog lechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 4 Chwefror 2020 PDF 371 KB
- Llythyr gan ACC - 24 Ionawr 2020 PDF 60 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Gyllid a Thollau EM & ACC - 9 Ionawr 2020 PDF 114 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Gadeiryddion Pwyllgorau Cyllid ac Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - 8 Ionawr 2020 PDF 108 KB
- Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru - 6 Ionawr 2020 PDF 546 KB
- Gohebiaeth Llywodraeth Cymru - 20 Rhagfyr 2019 PDF 2 MB