NDM7229 Dadl Plaid Cymru - Trais a Chamdriniaeth Rywiol
NDM7229 Dadl Plaid Cymru - Trais a Chamdriniaeth Rywiol
NDM7229 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cynnydd mewn adroddiadau o drais rhywiol yng Nghymru a Lloegr.
2. Yn mynegi cydymdeimlad ac undod â goroeswyr trais a
chamdriniaeth rywiol.
3. Yn gresynu at fethiant parhaus nifer o systemau
cyfiawnder troseddol ledled y byd i gynnig cefnogaeth i oroeswyr, a gresynu’r
ffaith nad yw goroeswyr, yn rhy aml, yn cael eu credu ac yn cael eu gorfodi i
ail-fyw profiadau erchyll drwy brosesau llys dwys, a diwylliannau mewn
heddluoedd nad ydynt yn credu dioddefwyr.
4. Yn nodi bod erlyniadau ar gyfer trais rhywiol ac
euogfarnau yng Nghymru a Lloegr ar eu lefelau isaf ers degawd, a bod gwella
cyfraddau euogfarnu’n rhan hanfodol o strategaeth atal trais.
5. Yn nodi bod comisiwn Thomas wedi dadlau mai dim ond
datganoli deddfwriaethol llawn, ar y cyd â phwerau gweithredol, fydd yn
goresgyn rhwystrau’r setliad datganoli presennol o ran mynd i’r afael â diffyg
cyfiawnder ac atebolrwydd y status quo.
6. Yn galw i gefnogaeth a gwasanaethau ymosodiad rhywiol
fod ar gael a chael eu hariannu’n ddigonol, ac i lysoedd gael eu haddasu fel y
bydd dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn, nid eu dychryn, wrth
roi tystiolaeth.
7. Yn galw i ddatganoli cyfiawnder fel y gallwn fynd i’r
afael â’r cyfraddau euogfarnu isel hyn drwy fabwysiadu arfer gorau rhyngwladol
ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais rhywiol.
Adroddiad
Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru - Hydref 2019
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu pwyntiau 5 a 7.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Nodi adroddiad Comisiwn Thomas ac yn diolch i’r Comisiwn
am ei waith ar y posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder gan edrych ymlaen at y
ddadl a addawyd yn ystod amser y llywodraeth ar ganfyddiadau’r Comisiwn ac
unrhyw effaith gaiff y rhain ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal
camdriniaeth a thrais rhywiol.
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod adroddiad Arolwg Trais Rhywiol 2019
Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron EM wedi canfod bod nifer yr achosion a
gyfeiriwyd at y Gwasanaeth i gael eu penderfynu gan yr heddlu a nifer yr
achosion a erlynwyd gan y Gwasanaeth wedi disgyn, er gwaethaf bod adroddiadau o
drais a gaiff eu cyflwyno i'r heddlu bron wedi dyblu.
Arolygiaeth
Gwasanaeth Erlyn y Goron EM - Arolwg Trais Rhywiol 2019 - Rhagfyr 2019
Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi datganiad Llywodraeth y DU bod y canfyddiadau yn
peri pryder mawr a'i bod wedi ymrwymo i adfer hyder yn y system gyfiawnder a
darparu gwell cefnogaeth i ddioddefwyr.
Adroddiad
HMCPSI ar gyfraddau euogfarnau trais rhywiol - 17 Rhagfyr 2019
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 15 Ion 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS