NDM7234 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Sgiliau Gweithlu ôl Brexit

NDM7234 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Sgiliau Gweithlu ôl Brexit

NDM7234 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth addysg bellach o ran datblygu sgiliau gweithlu Cymru i fodloni gofynion economi Cymru ar ôl Brexit.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ym mhobl Cymru drwy:

a) gynyddu'r cyllid i addysg bellach;

b) ehangu nifer y prentisiaethau gradd yng Nghymru;

c) creu lwfans dysgu oedolion i helpu pobl i wella a meithrin eu sgiliau; a

d) datblygu Sefydliad Technoleg yng ngogledd Cymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ym mhwynt 2, mewnosod fel is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (b) ac ail-rifo’n unol â hynny:

 ‘cynyddu rhwydweithiau cymorth i brentisiaid drwy drefniadau partneriaeth ffurfiol gyda cholegau addysg bellach;’

Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)

Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt 2(d) a rhoi yn ei le:

'gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion technoleg esblygol yr economi.'

Gwelliant 3 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd Erasmus+ o ran denu pobl i Gymru i ddiwallu anghenion economi Cymru drwy’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch, ac ymrwymo i wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i adael y rhaglen yn 2021.

Gwelliant 4 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu gwell amodau ar gyfer datblygu sgiliau gweithlu Cymru drwy gynyddu isafswm cyflog y flwyddyn gyntaf ar gyfer prentis i’r isafswm cyflog cenedlaethol safonol, yn unol â grŵp oedran y person.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021

Angen Penderfyniad: 22 Ion 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Darren Millar AS