NDM7264 Dadl Plaid Cymru - Llygredd Aer
NDM7264 Dadl Plaid Cymru - Llygredd Aer
NDM 7264 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod llygredd aer yn argyfwng iechyd
cyhoeddus, sy’n cyfrannu at amcangyfrif o 2,000 o farwolaethau’r flwyddyn yng
Nghymru.
2. Yn nodi nad yw ardaloedd mawr o Gymru yn monitro
ansawdd aer.
3. Yn galw am ddeddf aer glân i Gymru, a fyddai’n cynnwys
mesurau i:
a) rhoi’r hawl i gymunedau gael offer monitro llygredd y
tu allan i ysgolion ac ysbytai;
b) creu seilwaith a fyddai’n galluogi awdurdodau lleol i
gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd lle bo hynny’n briodol;
c) diwygio’r broses gynllunio i’w gwneud yn ofynnol i
effaith datblygiad ar lygredd aer gael mwy o bwys yn y system gynllunio;
d) cyflymu’r broses o drawsnewid i system drafnidiaeth
drydan fel bod ceir petrol a disel yn cael eu diddymu’n raddol erbyn 2030.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw am rwydwaith cenedlaethol newydd ar gyfer monitro
llygredd aer sy’n cyd-fynd â gallu presennol Cymru i fonitro.
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn nodi ymhellach fod llygredd aer yn dwysáu cyflyrau
presennol yr ysgyfaint ac yn achosi asthma a chanser yr ysgyfaint, ac nad yw
effeithiau hirdymor ansawdd aer gwael wedi eu deall yn llawn eto.
Gwelliant 3 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 3, dileu 'a fyddai’n cynnwys mesurau i:' a rhoi
yn ei le 'ac i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gymryd camau pendant i
atgyfnerthu pob mesur, gan ddefnyddio deddfwriaeth lle y bo angen, er mwyn:'.
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 3, cynnwys is-bwyntiau newydd cyn is-bwynt (a)
ac ailrifo yn unol â hynny:
'ymgorffori yn y gyfraith ganllawiau ansawdd aer
Sefydliad Iechyd y Byd;
mandadu Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth statudol ar
ansawdd aer bob pum mlynedd; '
Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 3(a), cynnwys ', a chyflwyno "hawl i
anadlu"' ar ôl 'ysbytai '.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 5 Chwe 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Siân Gwenllian AS