Gwella ffordd yr A465 Rhan 2
Gwella ffordd yr A465 Rhan 2
Cyhoeddodd
Archwilydd Cyffredinol Cymru Adroddiad
Interim - Gwella ffordd yr A465 Rhan 2 – ym mis Chwefror 2020.
Darn 8 cilometr o
ffordd rhwng Gilwern a Brynmawr yw’r A465 Rhan 2. Mae’n golygu adeiladu mewn
cwm â llethrau serth – Cwm Clydach – sy’n mynd drwy Barc Cenedlaethol Bannau
Brycheiniog. Mae’r gwaith i wella’r ffordd yn rhan o gynllun ehangach i wella
40 cilometr o’r A465 rhwng Hirwaun a’r Fenni y disgwylir iddo gostio oddeutu £1
biliwn ar y cyfan. Bwriedir i’r cynllun gael effaith sylweddol ar fuddsoddi a
gweithgarwch economaidd ar hyd coridor Blaenau’r Cymoedd.
Mae’r gost
derfynol a’r amserlen ar gyfer Rhan 2 yn dal i fod yn ansicr. Roedd y gwaith i
fod i gael ei orffen ym mis Medi 2018, ond erbyn hyn disgwylir y bydd hi’n 2021
cyn bod y gwaith wedi’i gwblhau’n llawn. Mae amcangyfrifon Llywodraeth Cymru ym
mis Tachwedd 2019 yn awgrymu cost o oddeutu £321.1 miliwn ar y cyfan i bwrs y
wlad.
Mae’r ffigur o
£321.1 miliwn yn llai na’r £336.2 miliwn a amcangyfrifwyd ym mis Ebrill 2019,
ond ar ddechrau’r contract dyluniad manwl ac adeiladu ym mis Rhagfyr 2014 roedd
Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif cost o £223.2 miliwn. Mae rhywfaint o’r
cynnydd yn ymwneud â newidiadau dylunio y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdanynt
a mesurau ychwanegol i fynd i’r afael ag effeithiau amgylcheddol, ond yr heriau
peirianegol a chytundebol a brofwyd yn ystod y prosiect sy’n gyfrifol am y rhan
fwyaf ohono.
Roedd rhaid i’r Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus ohirio ei archwiliad arfaethedig o'r mater hwn yn sgil
pandemig Covid-19, ond bu’n craffu ar waith Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2020.
Sesiwn Dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Llywodraeth Cymru Andrew Slade |
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/02/2020