P-05-950 Dysgu Amaethyddiaeth ac Addysg Cefn Gwlad o oed 4 i 16 yn ein Hysgolion
P-05-950 Dysgu Amaethyddiaeth ac Addysg Cefn Gwlad o oed 4 i 16 yn ein Hysgolion
P-05-950 Dysgu
Amaethyddiaeth ac Addysg Cefn Gwlad o oed 4 i 16 yn ein Hysgolion
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Osian Hedd Harries, ar ôl casglu cyfanswm o 93 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu am Amaethyddiaeth ac Astudiaethau Gefn Gwlad
yn ein hysgolion.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae'n bwysig i bobl ifanc
ddysgu sut mae'r broses o greu bwyd yn gweithio, gan ddysgu'r berthynas rhwng
Bwyd ac Amaeth. Mae'n bwysig hefyd fod nhw'n dysgu'r sgiliau sylfaenol o sut i
allu cynhyrchu cynnyrch ein bwydydd. Fydd hyn hefyd yn magu parch a
dealltwriaeth o waith yr Amaethwyr.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
29/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor
ymatebion y Gweinidog i’r ddeiseb hon a chytunodd i gau’r ddeiseb, o ystyried y
diffyg cyswllt a gafwyd gan y deisebydd a’r gwaith craffu sy’n cael ei wneud ar
Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/06/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Preseli Sir Benfro
- Canolbarth a Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/03/2020