P-05-952 Dylid mynd yn ôl i sillafu enwau lleoedd Cymraeg yn y ffordd Gymraeg
P-05-952 Dylid mynd yn ôl i sillafu enwau lleoedd Cymraeg yn y ffordd Gymraeg
P-05-952 Dylid mynd yn ôl i sillafu enwau lleoedd Cymraeg
yn y ffordd Gymraeg
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Jonathan Parsons, ar ôl casglu cyfanswm o 1,096 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae gan Gymru lawer o enwau lleoedd sydd wedi'u
Seisnigeiddio'n ddiangen, ac sydd yn aml wedi'u disodli gan ffurfiau
Seisnigedig am ddim rheswm da. Nid yn unig y mae hyn yn amharchus i'r Cymry a'r
iaith Gymraeg, ond mae'r Gymraeg, yn ôl y gyfraith, i fod ar sail gyfartal â'r
Saesneg yng Nghymru.
Mae defnyddio enwau llefydd fel Trevor (o'r gair
Cymraeg Trefor) ger Wrecsam nid yn unig yn tanseilio, ond yn cuddio etymolegau
enwau o'r fath! Mae hyn yn sicr yn annerbyniol.
Rwyf i, a'r rhai sydd wedi llofnodi isod, yn
deisebu Cynulliad Cymru i weithredu ac i newid y ffurfiau Seisnigaidd hyn o
enwau Cymraeg, drwy Gymru gyfan, ac i adfer eu sillafiadau Cymraeg gwreiddiol.
Nid yw'r ddeiseb yn mynd mor bell â gofyn am ddiddymu enwau Saesneg lle mae enw
Cymraeg yn bodoli hefyd (Cardiff nesaf at Gaerdydd, ac ati).
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod
yr holl ohebiaeth a gafwyd hyd yma, a diffyg cysylltiad pellach gan y deisebydd
yn ddiweddar, cytunodd i gau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/06/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Clwyd
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/03/2020