Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil y Coronafeirws

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil y Coronafeirws

Cyflwynwyd y Bil Coronafeirws [Saesneg yn unig] (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 19 Mawrth 2020.

 

Roedd y Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Senedd ar 24 Mawrth 2020.

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Coronafeirws yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2020.

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/04/2022