P-05-955 Gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr
P-05-955 Gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr
P-05-955 Gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B
ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Heads Of the Valley Petition Group, ar ôl casglu cyfanswm o 1,128 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Am y rhesymau a roddir isod, rydym ni sydd wedi
llofnodi isod yn gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer
dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr. Mae Costain yn ffafrio opsiwn B a'r bwriad yw
iddi gael ei gweithredu ym mis Ebrill 2020.
Ni fydd mynedfa i Fryn-mawr nac allanfa ohoni
o'r cwm gorllewinol.
Bydd Opsiwn B yn peri cynnydd dramatig yn y
traffig mawr sydd eisoes yn mynd trwy Gendl a Bryn-mawr gan na fydd gan yrwyr
sy'n teithio tua'r gorllewin ffordd o ddefnyddio'r A465 o ardaloedd y cwm
gorllewinol, e.e. Nant-y-glo, y Blaenau, Abertyleri, Aber-big, Llanhiledd,
Blaenafon ac ati.
Bydd goblygiadau i fasnachwyr yn nhrefi Cendl a
Bryn-mawr, sydd eisoes yn ei chael yn anodd, gan y bydd traffig sy'n teithio
o'r dwyrain yn osgoi'r trefi hyn.
Hefyd, bydd yr effaith amgylcheddol ar y ddwy
dref yn annerbyniol oherwydd y cynnydd mewn allyriadau carbon o draffig araf
sydd, yn ystod yr oriau brig, yn sefyll yn stond.
Mae cyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell ar y ffordd
trwy Gendl; fodd bynnag, ni fydd traffig trwm dros 7.5 tunnell yn gallu
cyrraedd A465 heb deithio trwy Gendl a Bryn-mawr.
Bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn wynebu gwyriad o
hyd at chwe milltir i ddefnyddio'r A465.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Blaenau Gwent
- Dwyrian De Cymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17.07.20
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Yng ngoleuni'r ffaith bod Llywodraeth Cymru a Costain
wedi cadarnhau y bydd Opsiwn B yn cael ei weithredu, cytunodd y Pwyllgor nad
oes fawr ddim pellach y gallai ei gyflawni ar hyn o bryd. Nododd rwystredigaeth
y deisebwyr ond cytunwyd i gau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
12.05.20.
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/04/2020