P-05-957 Gorsaf yn Sanclêr - Cefnogwch y cais am orsaf drennau yn Sanclêr
P-05-957 Gorsaf yn Sanclêr - Cefnogwch y cais am orsaf drennau yn Sanclêr
P-05-957 Gorsaf yn Sanclêr – Cefnogwch y cais am orsaf
drennau yn Sanclêr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Cyngor Tref St Clears, ar ôl casglu 562 o lofnodion ar lein a 701 ar bapur, sef
cyfanswm o 1,263 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i
annog Llywodraeth Cymru i argymell Sanclêr i Network Rail fel lleoliad ar gyfer
gorsaf reilffordd newydd yng Nghymru. Bydd Sanclêr a'r cymunedau cyfagos yn
elwa'n fawr o ailagor yr orsaf reilffordd, bydd yr orsaf yn cau'r bwlch yn
llinell Gorllewin Cymru a galluogi mwy o bobl i ddefnyddio'r trên. Credwn y
byddai gorsaf yn Sanclêr yn dod â llawer o fuddion gan gynnwys cynhwysiant
cymdeithasol, lleihau ôl troed carbon a mwy o dwristiaeth yn yr ardal.
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 09/06/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Oherwydd
y ffaith mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fydd yn gwneud y penderfyniad
terfynol ar y mater hwn fel rhan o’i Chronfa Gorsafoedd Newydd, cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gefnogi’r cais am orsaf newydd yn
Sanclêr, gan gytuno hefyd i gau’r ddeiseb. Hefyd, cytunodd aelodau’r Pwyllgor i
ddiolch i’r deisebydd am godi’r mater hwn ac i fynegi eu siom na fydd y
penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yng Nghymru.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 09/06/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin a Caerfyrddin a De Sir Benfro
- Caonlbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/05/2020