P-05-959 Rhowch fynediad at slotiau dosbarthu siopa blaenoriaeth yr archfarchnadoedd i bobl sy'n agored i niwed yng Nghymru yn ystod COVID19
P-05-959 Rhowch fynediad at slotiau dosbarthu siopa blaenoriaeth yr archfarchnadoedd i bobl sy'n agored i niwed yng Nghymru yn ystod COVID19
P-05-959 Rhowch fynediad at slotiau dosbarthu siopa
blaenoriaeth yr archfarchnadoedd i bobl sy’n agored i niwed yng Nghymru yn ystod
COVID19
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Lindsey Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 73 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Fel mam i blentyn sy’n agored i niwed, hoffwn
gael mynediad at slot dosbarthu siopa blaenoriaeth yr archfarchnadoedd wrth imi
orfod ei chysgodi yn ystod yr argyfwng COVID19.
Rwy’n gwerthfawrogi bod y cynghorau lleol yn
dosbarthu parseli bwyd am ddim a bod llawer o bobl yn gweithio’n galed iawn i
ddarparu’r rhain. Ni waeth pa mor dda yw’r weithred hon, nid yw’n ddigon i
gymryd lle cael cyflenwadau wedi’u dosbarthu gan archfarchnad i’ch cartref. Ar
ben hynny, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â llawer o bobl agored i niwed sy’n
teimlo’r un fath.
Yn gyntaf, mae’r blwch bwyd am ddim ar gyfer y
person sy’n agored i niwed yn unig, ac wrth gwrs mae angen bwyd a phrynu
cynhyrchion glanhau ac iechydol arnon ni fel teulu hefyd. O ganlyniad, mae
angen imi siopa o hyd, ac ar ôl 21 diwrnod o gysgodi, nid wyf wedi gallu cael
dim cyflenwadau wedi’u dosbarthu i’m cartref. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd
iawn i ni hunan-ynysu fel teulu fel y cawsom gyngor i’w wneud gan ein Nyrs
Anadlol.
Rwy’n teimlo ei bod yn annheg iawn fod pobl yn
Lloegr yn gallu cofrestru ar gyfer hyn ar wefan GOV.uk a chaiff y neges ei
throsglwyddo yn awtomatig i archfarchnadoedd, ond ni all pobl yng Nghymru wneud
hynny. Mae pobl Cymru yn hawlio budd-daliadau, yn trethu ein ceir, yn cwblhau
hunanasesiadau a llawer mwy ar y wefan hon, felly pam na allwn gael mynediad at
y wefan i gael mynediad â blaenoriaeth i siopa.
Rhowch fynediad at slotiau dosbarthu siopa
blaenoriaeth yr archfarchnadoedd i bobl sy’n agored i niwed yng Nghymru ar
wefan GOV.uk neu sefydlwch system / gwefan debyg ar gyfer Cymru.
Diolch yn fawr!
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 12/05/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gau'r ddeiseb ar gais y
deisebydd, a hynny yn sgil y ffaith bod system wedi'i sefydlu ers cyflwyno'r
ddeiseb er mwyn sicrhau bod archfarchnadoedd yng Nghymru yn gallu cadw slotiau
blaenoriaeth ar gyfer dosbarthu siopa ar gyfer unigolion sy'n cael eu gwarchod.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 12/05/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Tor-faen
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses
ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/04/2020