Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch-Tân 2020
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch-Tân 2020
Cyflwynwyd Bil
Diogelwch-Tân (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 19 Mawrth 2020.
Mae'r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad
Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel
arfer.
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 30
Ebrill 2020.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Iau 18
Mehefin 2020.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ei adroddiad
ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ddydd Gwener 12 Mehefin 2020.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad
(PDF, 107KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol 17 Mehefin 2020.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2020
Dogfennau
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Diogelwch Tân - 30 Ebrill 2020
- Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Fil Diogelwch Tân
- Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Adroddiad Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diogelwch Tân - 17 Mehefin 2020