P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor
P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor
P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden
ailagor
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Susan Stuart, ar ôl casglu cyfanswm o 964 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Y
nod yw annog y Llywodraeth i ailystyried y penderfyniad i gau campfeydd a
chanolfannau hamdden, ac i ddod i gytundeb i’w hailagor. Mae nifer o bobl yn
defnyddio’r cyfleusterau hyn i hybu eu hiechyd meddwl a’u lles a byddai’n
fuddiol eu hailagor gyda chyfyngiadau.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
rhai prosesau y gellid eu rhoi ar waith i wneud yn siŵr bod y cyfleusterau
hyn yn cadw at bolisïau cadw pellter cymdeithasol a pholisïau hylendid. Byddai
modd gwneud hynny mewn ffordd fwy diogel ac mewn ffordd sy’n haws ei rheoli
na’r hyn sy’n digwydd yn y siopau sydd ar agor ar hyn o bryd ac yn sicr yn haws
i’w rheoli na’r hyn sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd ar gyfer siopau ‘nad
ydynt yn hanfodol’.
Statws
Yn ei
gyfarfod ar 15/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deiseb P-05-986
Caniatáu i gampfeydd bach a safleoedd hyfforddi personol agor yn gynt yn ystod
cyfyngiadau COVID, a gan fod campfeydd dan do bellach wedi cael caniatâd i
ailagor a bod y Dirprwy Weinidog wedi darparu gwybodaeth am y cyngor gwyddonol
a ddefnyddir i lywio penderfyniadau, cytunwyd i gau’r deisebau.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/07/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pontypridd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2020