P-05-987 Dylid diweddaru'r canllawiau fel bod Canolfannau Hapchwarae i Oedolion, sy'n fusnesau teuluol, yn gymwys ar gyfer Grantiau Busnes yng Nghymru
P-05-987 Dylid diweddaru'r canllawiau fel bod Canolfannau Hapchwarae i Oedolion, sy'n fusnesau teuluol, yn gymwys ar gyfer Grantiau Busnes yng Nghymru
P-05-987 Dylid diweddaru’r canllawiau fel bod Canolfannau
Hapchwarae i Oedolion, sy'n fusnesau teuluol, yn gymwys ar gyfer Grantiau
Busnes yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Delucia Sidoli, ar ôl casglu cyfanswm o 706 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
gan lawer o drefi yng Nghymru Ganolfan Hapchwarae i Oedolion. O'r holl
ganolfannau felly yng Nghymru, dim ond dyrnaid sy'n rhan o gadwyn cenedlaethol;
mae'r gweddill yn fusnesau teuluol.
Ar
hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn bendant na fydd yn diweddaru canllawiau
Grant Busnes COVID i gefnogi'r canolfannau hapchwarae sy’n fusnesau teuluol.
Mae canolfannau hapchwarae i oedolion hefyd wedi'u hepgor o'r Gronfa Gwydnwch
Economaidd.
Mae
rhai canolfannau hapchwarae yng Nghymru wedi gweithredu ers y 1980au ac mae pob
un yn cyflogi pobl leol. Mae'r diffyg cefnogaeth gyfredol yn rhoi cannoedd o
swyddi mewn perygl yng Nghymru.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
canolfannau hapchwarae i oedolion wedi cael eu cynnwys yng nghynlluniau grant
Lloegr a’r Alban, ac mae busnesau yn y gwledydd hynny wedi cadarnhau eu bod
wedi cael y grantiau.
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 15/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac yng ngoleuni'r ffaith nad yw’r
Gweinidog yn bwriadu newid y canllawiau mewn perthynas â’r cynllun grantiau, a
bod y cynllun bellach wedi cau i geisiadau newydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/09/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/07/2020