P-05-989 Cadw'r cyfyngiadau a osodwyd gan ddeddfwriaeth Covid 19, caniatáu teithio o fewn radiws o 5 milltir yn unig yng Nghymru
P-05-989 Cadw'r cyfyngiadau a osodwyd gan ddeddfwriaeth Covid 19, caniatáu teithio o fewn radiws o 5 milltir yn unig yng Nghymru
P-05-989 Cadw’r cyfyngiadau a osodwyd gan ddeddfwriaeth
Covid 19, caniatáu teithio o fewn radiws o 5 milltir yn unig yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
ddeisebydd dienw, ar ôl casglu cyfanswm o 114 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar
29 Mai cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau yn y cyfyngiadau a osodwyd gan
reoliadau Covid 19. Cafodd y rheolau eu llacio ond mae'n dal i fod yn ofynnol i
bobl aros yn lleol ac o fewn radiws o 5 milltir. Diben y rheolau hyn yw cadw
cymunedau a theuluoedd yn ddiogel. Y rheswm pam mae’r rheolau pellter
cymdeithasol yma i aros yw bod gennym i gyd un ddyletswydd. Atal y lledaeniad.
Mae’r cyfyngiadau eisoes wedi cael eu llacio yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ond
credaf y bydd hyn yn achosi i ail a thrydydd ton ddechrau yno.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
rhai pobl yn galw am ryddid llwyr i deithio yng Nghymru. Rwy'n cydymdeimlo â
hwy a gwn y gall unigedd fod yn anodd ar adegau, ond mae wedi bod yr un fath i
filiynau o bobl ledled y byd. Mae gennym i gyd un ddyletswydd. Mae angen inni
gadw'r ffigurau i lawr ac atal y lledaeniad. Peidiwch ag ymlacio. Teithio lleol
yn unig yng Nghymru.
Cadwch
bobl Cymru, ein teuluoedd a'n cymunedau yn ddiogel.
Diolch
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 07/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â P-05-971
Dylid llacio'r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan ddeddfwriaeth COVID-19 er mwyn
caniatáu i bobl deithio yng Nghymru a chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb gan
fod y cyfyngiadau teithio y cyfeiriwyd atynt wedi'u llacio ar 6 Gorffennaf.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/07/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Merthyr Tudful a Rhymni
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2020