P-05-991 Sicrhewch fod sticer ar gael i ddangos eich bod yn byw yng Nghymru
P-05-991 Sicrhewch fod sticer ar gael i ddangos eich bod yn byw yng Nghymru
P-05-991 Sicrhewch fod sticer ar gael i ddangos eich bod
yn byw yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Rosalind Rhodes, ar ôl casglu 39 llofnod ar-lein a 42 ar bapur, sef cyfanswm o
81 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
llawer o Gymry yn ofni am bobl yn dod i mewn a allai ddod â Coronafeirws. Mae’n
rhaid i’r DVLA neu gynghorau lleol ddarparu’r sticer neu'r cerdyn dwyieithog
hwn.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Sticer
fel hyn:
RWY’N
BYW YNG NGHYMRU
LL10
XXX
Mae’n amlwg i'r heddlu ei weld ond gellid cael
gwared arno’n hawdd pe bai angen.
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 15/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd ei bod yn glir nad yw’r
Llywodraeth yn bwriadu gweithredu’r hyn a gynigiwyd. Cytunodd y Pwyllgor i
gau’r ddeiseb, gan ddiolch i'r deisebydd am godi mater dilys.
Wrth
wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Economi a
Thrafnidiaeth i ofyn sut mae’n bwriadu mynd i’r afael â’r mater ehangach a
godwyd gan y deisebydd.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/09/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyfor Meirionnydd
- Canolbarth a Gollewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/07/2020