P-05-1004 Caniatáu i Ysgolion Dawns yng Nghymru ailagor ar unwaith ar gyfer gwersi dan do

P-05-1004 Caniatáu i Ysgolion Dawns yng Nghymru ailagor ar unwaith ar gyfer gwersi dan do

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1004 Caniatáu i Ysgolion Dawns yng Nghymru ailagor ar unwaith ar gyfer gwersi dan do

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michelle Meano, ar ôl casglu cyfanswm o 1,307 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Ers i’r cyfnod cloi yn y Deyrnas Unedig ddechrau ym mis Mawrth 2020, mae Ysgolion Dawns dan do wedi bod ar gau. Mae gwersi dawns yn cynnig rhyddhad i blant ac oedolion sy’n wynebu llawer o anawsterau, fel diffyg hyder, nerfusrwydd, awtistiaeth, problemau ag aelodau o’r corff ac ati. Dylai Llywodraeth Cymru amlinellu sut y mae ysgolion dawns yn ffitio yn y cynlluniau adfer mewn ymateb i COVID-19, creu pecyn o gymorth ariannol sydd wedi’i deilwra i’r sector dawns ac egluro sut y bydd cymorth yn cael ei roi. Mae angen i Mr Drakeford gyflwyno ei gynlluniau o ran ailddechrau’r sector dawns dan do.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae llawer o athrawon yn gweithio drwy gyrff llywodraethu fel Bbo Dance, RAD, ISTD ac ati. Caiff llawer o’r rhain eu cydnabod gan Ofqual a Chymwysterau Cymru. Mae’n rhwydd cadw pellter cymdeithasol mewn dosbarth dawns ac mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr ym mhob genre wedi hen arfer â chael eu gosod mewn safleoedd penodol gan eu hathrawon. Nid yw pob genre yn galw am waith gyda phartner, ac mae nifer o ffyrdd creadigol o ymateb i’r gofyniad hwn ta beth. Mae dawns yn dod â buddion gwych o ran iechyd corfforol ac iechyd meddwl, heb sôn am fod yn weithgaredd sy’n destun angerdd i’r athrawon a’r myfyrwyr. Hefyd, mae dawns yn rhan bwysig o ddiwydiant y celfyddydau, ac mae ei rhinweddau o ran busnes, iechyd a hamdden yn cael eu hanwybyddu ar hyn o bryd.

 

grayscale photo of womens exercising in front of mirror

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a, gan fod ysgolion dawns yn gallu ailagor ar yr amod eu bod yn cadw at y gofynion diogelwch, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/09/2020.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Dwyrain Casnewydd
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/08/2020