P-05-1009 Gorchmynnwch Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i'r Dreth Gyngor ar ail gartrefi
P-05-1009 Gorchmynnwch Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i'r Dreth Gyngor ar ail gartrefi
P-05-1009 Gorchmynnwch
Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i’r Dreth Gyngor ar ail
gartrefi
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michael Murphy, ar ôl casglu
cyfanswm o 1,026 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae ail gartrefi a chartrefi tymhorol yn dinistrio ein
cymunedau gwledig, tra’u bod yn prisio pobl leol allan o’r farchnad dai. Yn y
cyfamser, mae llawer o berchnogion ail gartrefi yn osgoi talu unrhyw Dreth
Gyngor drwy hawlio rhyddhad ardrethi busnesau bach. Dylai Llywodraeth Cymru fod
yn mynd ati o ddifrif i anghymell hyn a chymhwyso cosbau o 10 y cant o werth ail
gartref am achosion o osgoi bwriadol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
01/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i nodi'r wybodaeth bellach a
gafodd am y sefyllfa bresennol o ran premiymau treth y cyngor ar gyfer ail
gartrefi. Yn sgil hynny – ac esboniad blaenorol y Gweinidog am natur ddewisol y
pŵer, a gymeradwywyd
gan y Pwyllgor –
cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/09/20.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/09/2020