P-05-1028 Llaciwch y cyfyngiadau gormodol i ganiatáu i ralïau chwaraeon modur gael eu cynnal yng Nghymru
P-05-1028 Llaciwch y cyfyngiadau gormodol i ganiatáu i ralïau chwaraeon modur gael eu cynnal yng Nghymru
P-05-1028 Llaciwch y cyfyngiadau gormodol i ganiatáu i
ralïau chwaraeon modur gael eu cynnal yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Jamie Edwards, ar ôl casglu cyfanswm o 3,889 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
ralïau ceir a gaiff eu cynnal yng Nghymru yn dod â thua £15 miliwn i economi’r
wlad bob blwyddyn. Mae effaith COVID-19 a'r cyfyngiadau a osodir ar
ddigwyddiadau wedi difrodi’r byd ralïo yng Nghymru, ac wedi effeithio ar
swyddi, busnesau, gyrfaoedd ac hefyd wedi effeithio’n fawr ar gymunedau gwledig
ledled Cymru sy'n elwa o 'dwristiaeth' ralïo. Goblygiadau’r cyfyngiadau
presennol yw ei bod yn amhosibl i drefnwyr gynllunio ymlaen llaw ar gyfer 2021,
ac felly gallai llawer yn rhagor o ddigwyddiadau, busnesau a swyddi gael eu
colli yn barhaol..
Gwybodaeth
Ychwanegol
Mae’r byd ralïo wedi ymateb
i effaith COVID-19, a chynhaliwyd digwyddiad treialu yn llwyddiannus yn Cumbria
ym mis Awst. Roedd y digwyddiad hwn yn cynnwys cystadleuwyr a deithiodd o bob
rhan o'r DU i gyrraedd y digwyddiad mewn coedwig breifat. Nid oedd y digwyddiad
yn cynnwys gwylwyr, a dilynwyd y canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn llym.
Cwblhawyd y gwaith gweinyddol cyn y digwyddiad
yn electronig. Nid oedd dim rhyngweithio corfforol rhwng swyddogion y cwrs, y
stiwardiaid, y timau amseru na’r cystadleuwyr, drwy ddefnyddio technoleg
ddigidol.
Ni adroddwyd am ddim achosion o COVID-19 ers y
digwyddiad, a rhoddwyd hwb i'r ardal leol (Penrith) wrth i ystafelloedd
gwestyau gael eu gwerthu ac i fyrddau mewn bwytai gael eu harchebu.
Mae ralïo yng Nghymru yn cael ei gynnal mewn
rhannau gwledig ac anghysbell o'r wlad, hynny yw, ardaloedd fel Dolgellau,
Pembre, y Trallwng, Conwy, Cwm-nedd a Llanfair-ym-Muallt. Gellir dilyn rheolau
cadw pellter cymdeithasol a chynnal digwyddiadau ralïo mewn modd sy’n
cydymffurfio â rheolau COVID-19 hyd eithaf ein gallu.
Ar hyn o bryd, mae'n amhosibl trefnu ralïau
moduron yng Nghymru oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu
hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed
Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater
hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/10/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Wrecsam
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/10/2020