NDM7392 Dadl: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
NDM7392 Dadl: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
NDM7392 Rebecca
Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a osodwyd ar 21 Medi 2020;
2. Yn cydnabod yr
ymgysylltu a’r ymgynghori helaeth a fu dros y pedair blynedd ddiwethaf sydd
wedi cyfrannu at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol;
3. Yn cytuno bod y
fframwaith ar gyfer y pedwar rhanbarth a’r polisïau yn y Fframwaith Datblygu
Cenedlaethol yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio ac eraill wrth lunio a
gwneud lleoedd da;
4. Yn cytuno bod y
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud
penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn
yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;
5. Yn cytuno y bydd
cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn helpu i gefnogi adferiad cryf o
Covid-19.
Fframwaith
Datblygu Cenedlaethol
Dogfennau Ategol
Adroddiad
yr Ymgynghoriad: Crynodeb (FfDC drafft)
Adroddiad
yr Ymgynghoriad (FfDC drafft)
Arfarniad
Cynaliadwyedd Integredig o’r FfDC: Crynodeb Annhechnegol
Arfarniad
Cynaliadwyedd Integredig o’r FfDC
FfDC:
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Rhestr
o newidiadau i ddrafft y FfDC
Gwelliant 1 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu y dylai'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
cyntaf osod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol
cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog
datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;
Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru, unwaith
eto, wedi dewis rhoi gormod o bwyslais ar wynt ar y tir.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio'r Fframwaith
Datblygu Cenedlaethol i ganolbwyntio ar gynhyrchu ynni niwtral o ran carbon o
gymysgedd o ynni gwynt ar y môr ac ynni'r llanw.
Os derbynnir Gwelliant 1, bydd Gwelliant 2 yn cael ei
ddad-dethol.
Gwelliant 2 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn
credu nad yw Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn sicrhau
dyfodol i Gymru sy'n ffyniannus, yn gynaliadwy ac yn rhoi cyfle cyfartal i'w
holl dinasyddion.
Math o fusnes:
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/06/2021