P-05-1034 Dylid ailagor theatrau a lleoliadau perfformio yng Nghymru mewn pryd ar gyfer tymor yr ?yl
P-05-1034 Dylid ailagor theatrau a lleoliadau perfformio yng Nghymru mewn pryd ar gyfer tymor yr ?yl
P-05-1034 Dylid ailagor theatrau a lleoliadau perfformio
yng Nghymru mewn pryd ar gyfer tymor yr Ŵyl
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Jacob Dyer, ar ôl casglu cyfanswm o 157 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Bydd
mwyafrif theatrau rhanbarthol y DU yn creu mwy o incwm yng nghyfnod 'yr Ŵyl'
nag ar unrhyw adeg arall o'r flwyddyn. Mae amser yn prysur ddiflannu i theatrau
gael gwybod a fyddan nhw’n cael agor mewn pryd ar gyfer y cyfnod hwn. Er bod
llawer o'r lleoliadau proffil uchel yng Nghymru eisoes wedi gohirio eu
cynyrchiadau Nadolig, mae cannoedd a fydd yn gallu cynhyrchu a pherfformio
theatr yn ddiogel o gael digon o rybudd eu bod yn cael agor.
Rhaid
trafod y mater hwn a’i ddatrys yn brydlon.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Mae theatrau Cymru ar gau ac nid oes dim
gwybodaeth am bryd y gallai’r sefyllfa hon newid. Ar hyn o bryd gall tafarndai
a bwytai agor gyda threfniadau i gadw pellter cymdeithasol rhwng byrddau, gall
campfeydd agor gyda phellter cymdeithasol rhwng defnyddwyr, a gall addoldai
agor gyda’u cynulleidfaoedd yn cadw pellter cymdeithasol. Ond nid felly
theatrau.
Os caniateir iddyn nhw agor, gall theatrau
sicrhau bod cwsmeriaid yn cadw pellter cymdeithasol, naill ai trwy werthu seddi
unigol neu drwy werthu seddi ar gyfer grwpiau teuluol (yn union fel archebu
bwrdd mewn bwyty). Mae theatrau yn barod ar gyfer dilyn ac olrhain am eu bod
eisoes yn lleoliadau sydd â systemau gwerthu tocynnau. Gellir gofyn i
gynulleidfaoedd wisgo masgiau, gellir cwtogi perfformiadau, a gellir peidio â
chynnal egwylion er mwyn lleihau ciwio ac ati.
Gellir rhoi’r holl fesurau hyn ar waith i
sicrhau bod cynulleidfaoedd, perfformwyr a staff yn ddiogel. Ond nid yw theatr
yn gweithio fel tap. Mae angen digon o rybudd arnom y byddwn yn cael agor er
mwyn ymarfer, cynllunio, adeiladu, rigio a gweithio'n ddiogel.
Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu
theatrau Cymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor
y ddeiseb ac ymateb y Gweinidog iddi. Daeth i’r casgliad bod amgylchiadau’r
mesurau sydd ar waith i reoli’r feirws wedi newid ers cyflwyno’r ddeiseb yn
anffodus, ac erbyn hyn, nid oes fawr o obaith realistig y bydd lleoliadau’n
gallu agor ar gyfer perfformiadau’r ŵyl. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
Wrth wneud hynny,
roedd yr aelodau am ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i nodi pwysigrwydd
caniatáu i leoliadau o'r fath ailagor yn gyflym pan fydd yr amgylchiadau'n
caniatáu hynny.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/11/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Preseli Sir Benfro
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Hafan y
Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob
deiseb sydd ar agor
- Gweld pob
deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn
gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/10/2020