P-05-1037 Caniatáu i blant fynd i mewn i ardaloedd dan gyfyngiadau symud i barhau i hyfforddi gyda'u clybiau chwaraeon
P-05-1037 Caniatáu i blant fynd i mewn i ardaloedd dan gyfyngiadau symud i barhau i hyfforddi gyda'u clybiau chwaraeon
P-05-1037 Caniatáu i blant fynd i mewn i ardaloedd dan
gyfyngiadau symud i barhau i hyfforddi gyda'u clybiau chwaraeon
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Wendy Brady, ar ôl casglu cyfanswm o 9,867 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
plant sy’n gwneud athletau, gymnasteg, nofio, pêl-droed yn cael eu hatal rhag parhau
â’u hyfforddiant gyda’u clybiau yn y chwaraeon o’u dewis oherwydd ffiniau’r
ardaloedd dan gyfyngiadau symud.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Mae
clybiau wedi cyflwyno gweithdrefnau diogelwch ar gyfer COVID-19 a chaniateir i
blant o fewn ffiniau'r sir hyfforddi, ond nid yw’r rhai y tu allan i'r
ardaloedd yn cael gwneud hynny. Mae hyn yn golygu bod cyfleusterau chwaraeon
yng Nghasnewydd, Abertawe a Chaerdydd ar gael ar gyfer y plant yn ardal y sir
yn unig, tra bod plant sy'n byw dim ond pum milltir i ffwrdd yn cael eu hatal
rhag hyfforddi. Hoffem i'r Senedd ganiatáu i blant fynychu eu clybiau chwaraeon
a'i gwneud yn “esgus rhesymol” dros fynd i mewn i ardal dan gyfyngiadau symud
fel y gall plant barhau i hyfforddi yn ystod misoedd y gaeaf.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu
hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed
Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater
hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/11/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyrain Casnewydd
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/11/2020