NDM7428 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM7428 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM7428 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu'r £4
biliwn o gyllid ychwanegol a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth Ei
Mawrhydi i fynd i'r afael ag effaith pandemig y coronafeirws yng Nghymru.
2. Yn cydnabod effaith
andwyol sylweddol cyfyngiadau coronafeirws lleol ar fusnesau a chyflogwyr
eraill.
3. Yn nodi'r angen i
sicrhau bod cyfyngiadau coronafeirws sy'n effeithio ar gyflogwyr yn gymesur.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) dileu'r disgwyliad i
gyflogwyr gael gweithle sy'n cydnabod undebau llafur er mwyn cael mynediad at
gyllid a grantiau Llywodraeth Cymru;
b) ymestyn rhyddhad
ardrethi busnes i fusnesau sydd â gwerth trethadwy o fwy na £500,000 ac i
landlordiaid nad ydynt yn gallu gosod eiddo masnachol gwag;
c) hepgor y gofyniad
buddsoddi o 10 y cant i gael grantiau o dan gam 3 y gronfa cadernid economaidd;
a
d) cyhoeddi, yn
gyhoeddus, ddata ar nifer y profion COVID-19 positif ar sail ward awdurdod
lleol.
Dogfen ategol
Llythyr gan Weinidog yr
Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru at berchnogion busnes (Saesneg yn
unig)
Yn unol â Rheol Sefydlog
12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 4 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei
le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r ffaith bod
Llywodraeth Cymru’n dyrannu dros £4 biliwn i’w hymateb i COVID-19, sy’n swm
uwch na’r cyllid canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU drwy fformiwla
Barnett.
2. Yn cydnabod mai pecyn
gwerth £1.7 biliwn Llywodraeth Cymru o gymorth i fusnesau mewn ymateb i
COVID-19 yw’r pecyn gorau unrhyw le yn y DU, gan gynnwys cronfa cadernid
economaidd gwerth £500 miliwn sy’n helpu i ddiogelu dros 100,000 o swyddi.
3. Yn nodi bod gwaith teg
wrth wraidd ymateb Llywodraeth Cymru a bod pob busnes sydd wedi derbyn cymorth
wedi cytuno i gadw at egwyddorion y contract economaidd.
4. Yn cydnabod y mesurau
cynnar, cymesur a thryloyw y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno er mwyn mynd
i’r afael â’r feirws a’i effeithiau ar yr economi ac ar iechyd y cyhoedd.
5. Yn croesawu cynlluniau
gwerth £140 miliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer trydydd cam y gronfa cadernid
economaidd (ERF3), sy’n cynnwys £20 miliwn ar gyfer twristiaeth a lletygarwch.
6. Yn nodi’r ffaith y
gall busnesau yng Nghymru sy’n parhau i fasnachu dderbyn cymorth o dan gronfa
ymateb cyflym ERF3. Nid dyma’r sefyllfa o ran cymorth i fusnesau mewn ardaloedd
lleol yn Lloegr sydd dan gyfyngiadau.
7. Yn teimlo bod
penderfyniad Llywodraeth y DU i derfynu’r cynllun cadw swyddi yn anffodus ac yn
credu nad yw’r cynllun cefnogi swyddi yn ddigon o gymhelliant i gyflogwyr o
fewn y sectorau sydd yn y sefyllfa fwyaf bregus ar hyn o bryd i gadw gweithwyr
yn ystod yr argyfwng, gan gynnwys cyflogwyr o fewn y sectorau twristiaeth a
lletygarwch.
8. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gyllid ar gyfer ardaloedd lleol sydd dan
gyfyngiadau ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â’r feirws.
[Os derbynnir gwelliant
1, bydd gwelliannau 2 a 5 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn
ei le:
Yn galw am gynyddu pwerau
benthyca ar lefel Cymru er mwyn ymateb i effaith y pandemig yn unol ag
anghenion a blaenoriaethau Cymru.
Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnwys pwynt newydd ar
ôl pwynt 1 ac ailrifo'n unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith
nad yw cynllun cymorth swyddi Llywodraeth y DU o unrhyw help i nifer fawr o
fusnesau yng Nghymru, yn enwedig busnesau bach a busnesau yn y sector
gwasanaethau megis lletygarwch a gwallt a harddwch.
Gwelliant 5 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu fel is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4:
ail-werthuso cymorth
busnes COVID-19 er mwyn sicrhau ei fod yn llenwi'r bylchau a adawyd gan
gynlluniau Llywodraeth y DU mewn ffordd effeithiol.
Math o fusnes: Dadl
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2021