P-05-1047 Gadewch i dafarndai a bariau fasnachu, a chanslo'r cyrffyw
P-05-1047 Gadewch i dafarndai a bariau fasnachu, a chanslo'r cyrffyw
P-05-1047 Gadewch i dafarndai a bariau fasnachu, a
chanslo'r cyrffyw
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Adam Smith, ar ôl casglu cyfanswm o 750 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
trwyddedeion bariau a thafarndai yn dilyn gweithdrefnau llym er mwyn masnachu,
ac i wneud yn siŵr bod staff a chwsmeriaid yn cael eu diogelu ar bob adeg.
Gyda
mesurau cadw pellter cymdeithasol ychwanegol ar waith, mae trwyddedeion ledled
y wlad wedi dangos eu bod yn gallu gwneud hynny gan barhau i fasnachu, cadw eu
lleoliadau ar agor a sicrhau swyddi.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Yn ôl dogfennau SAGE, mae arbenigwyr wedi
wfftio’r syniad o gyrffyw am ddeg o’r gloch yr hwyr ar gyfer tafarndai, bariau
a bwytai cyn iddo gael ei roi ar waith ledled Lloegr.
Mae’r Prif Weinidog ei hun wedi dweud nad oes
unrhyw beth sy’n profi bod cysylltiad rhwng cynnydd mewn achosion â bariau,
tafarndai a bwytai.
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn honni bod
tystiolaeth yn ardal Heddlu Gwent yn dangos nad yw'r nifer cynyddol o achosion
yn cael eu hachosi gan dafarndai a bwytai.
Yn ôl lleoliadau, bu gostyngiad o 93% ers mis
Awst, o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Gydag ychydig iawn o gefnogaeth ar gael, ac yn
wyneb ansicrwydd, mae hyn yn achosi mwy o bryder a straen i berchnogion o fewn
y sector lletygarwch.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganslo'r
cyrffyw 10pm, gadael i leoliadau fasnachu yn unol â'u trwyddedau ac achub ein
heconomi gyda'r nos.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
01/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y
Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb yn sgil y ffaith
bod y rheolau wedi newid ymhellach ers cyflwyno'r ddeiseb a bod y Pwyllgor ar
fin ystyried deisebau pellach, esboniad y cyngor gwyddonol y tu ôl i'r cyrffyw
10pm o dan arweiniad y Gell Cyngor Technegol, yr arian a amlinellwyd ar gyfer
cefnogi'r diwydiant a’r gwaith craffu ar faterion cysylltiedig sy'n cael eu
cynnal gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a’r Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/12/20.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyrain Casnewydd
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/11/2020