Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru

Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru

Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru. Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

  • pa mor bwysig yw prif borthladdoedd a meysydd awyr Cymru, o ran economïau eu rhanbarthau eu hunain a Chymru gyfan?
  • pa ffactorau sy’n cyfyngu ar wireddu potensial prif borthladdoedd a meysydd awyr Cymru; pa gyfleoedd sydd ar gael i ddatblygu’r potensial hwn; a sut y gellir eu gwireddu?
  • pa mor effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru o ran cefnogi’r gwaith o ddatblygu prif borthladdoedd a meysydd awyr Cymru?


Materion allweddol

Roedd y materion y bu’r Pwyllgor yn eu hystyried fel rhan o’r cylch gorchwyl hwn yn cynnwys:

 

  • pa ran y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran hwyluso’r gwaith o ddatblygu porthladdoedd a meysydd awyr Cymru?
  • pa ffactorau sydd wedi cyfrannu at ddirywiad busnes ym Maes Awyr Caerdydd?
  • pa mor effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru, yn bennaf ym meysydd trafnidiaeth, datblygu economaidd a pholisi cynllunio defnydd tir, o ran cefnogi’r gwaith o ddatblygu porthladdoedd a meysydd awyr Cymru?
  • sut y gall Llywodraeth Cymru ddatblygu cyfleoedd economaidd, er enghraifft o dwristiaeth, masnachu mewnol, cludo nwyddau ac, yn achos porthladdoedd, cyfleoedd sy’n cynnwys y diwydiannau ynni ac ynni adnewyddadwy? Pa ran y mae porthladdoedd a meysydd awyr, yn arbennig Maes Awyr Caerdydd, yn ei chwarae yn y prif sectorau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru?
  • pa mor effeithiol yw seilwaith a rhyng-gysylltedd o ran cynorthwyo i ddatblygu porthladdoedd a meysydd awyr Cymru?
  • gofio bod polisïau sy’n ymwneud â phorthladdoedd a meysydd awyr yn faterion a gadwyd yn ôl, pa mor effeithiol y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU er budd Cymru?
  • pa effaith a gaiff rheoliadau cymorth gwladwriaethol yr UE ar allu Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth, a pha gyfleoedd y mae polisi porthladdoedd a meysydd awyr yr UE yn eu rhoi i gefnogi’r gwaith datblygu yng Nghymru?

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/02/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau