P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid!
P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid!
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Laura Williams, ar ôl casglu cyfanswm o
5,159 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ers i COVID-19 a’r cyfyngiadau symud ddod i’r amlwg, mae pobl wedi bod yn
gaeth i’w haelwydydd fis ar ôl mis ac roedd llawer o'r bobl hynny’n dioddef cyn
y cyfyngiadau symud, a thra’r oeddent ar waith. Roeddwn i’n rhywun a
ddioddefodd yn sgil y cyfyngiadau symud ac rwy’n pryderu am nifer yr achosion o
hunanladdiad yn fy ardal cyn y cyfyngiadau symud, a thra’r oeddent ar waith.
Mae’r cyfyngiadau symud wedi gwaethygu iechyd meddwl pobl ac wedi gosod
gwasanaethau iechyd meddwl o dan gryn straen – mae plant ifanc yn dioddef, ac
mae oedolion a’r henoed yn dioddef hefyd o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud.
Dylai Senedd Cymru fod yn cymryd camau ynghylch iechyd meddwl ac yn
ariannu mwy o wasanaethau, mae pobl yn disgwyl am amser hir cyn gweld rhywun,
neu cyn iddyn nhw gael help. Nid yw llawer o feddygon a nyrsys lleol wedi'u
hyfforddi ym maes iechyd meddwl.
Cynyddodd canran y bobl wnaeth roi gwybod eu bod yn dioddef problemau
iechyd meddwl o 23.3% yn 2017-2019 i 36.8% ym mis Ebrill 2020 (astudiaeth
hydredol o aelwydydd y DU). Os nad yw hynny’n ei gwneud yn gwbl glir sut mae’r
cyfyngiadau symud yn newid i’r eithaf y modd rydym yn byw ein bywydau ac yn
ymladd y brwydrau sy’n ein wynebu’n ddyddiol, wn i ddim beth fydd yn gwneud.
Gwybodaeth Ychwanegol
Fy enw i yw Laura ac rwy'n dioddef nifer o faterion iechyd meddwl, sef
Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), Anhwylder Obsesiynol Cymhellol (OCD),
iselder ysbryd, gorbryder ac anhwylder panig. Creais ddeiseb a oedd hefyd yn
nodi’r ffaith bod iechyd meddwl mewn cyfyngder mawr, ac mae gofyn cael cymorth
ychwanegol ar ei gyfer. Llwyddodd y ddeiseb ac ers fy neiseb ddiwethaf,
penderfynais mai'r ffordd orau i wireddu newid oedd dechrau gyda fi fy hun. O
ganlyniad, gorffennais fy therapi PTSD yn llwyddiannus.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2020