P-05-1082 Gadewch i gorau ymarfer dan do os ydyn nhw'n cynhyrchu asesiad risg llawn i atal haint C-19
P-05-1082 Gadewch i gorau ymarfer dan do os ydyn nhw'n cynhyrchu asesiad risg llawn i atal haint C-19
P-05-1082 Gadewch i gorau ymarfer dan do os ydyn nhw'n cynhyrchu asesiad
risg llawn i atal haint C-19
Cyflwynwyd
y ddeiseb hon gan Jon Wilks, ar ôl casglu cyfanswm o 498 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
corau yng Nghymru yn cael eu hatal rhag ymarfer dan do oherwydd canllawiau
cyfredol C-19 Llywodraeth Cymru, sy'n annog peidio â chanu dan do. Nid yw'r
canllawiau'n ystyried camau y gall corau eu cymryd, megis gwisgo amddiffynwyr
wyneb, cadw pellter, gwneud llai o sŵn wrth ganu, diheintio arwynebau a
dwylo, ac awyru. Nid yw corau yn gallu parhau i ymarfer yn yr awyr agored yn
ystod y gaeaf. Dylid newid y canllawiau i ganiatáu canu wedi’i drefnu dan do os
gellir dyfeisio a gweithredu asesiad risg a chynllun.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae
Côr Meibion y Bont-faen yn gôr llewyrchus a llwyddiannus y mae ei aelodaeth ar
gynnydd, ac mae wedi bod yn ymarfer yn yr awyr agored yn unol â rheolau
Llywodraeth Cymru. Mae rheolau cyfredol y Llywodraeth yn caniatáu i hyd at 15 o
bobl gwrdd dan do, ond nid ar gyfer canu. Mae'n ymddangos bod y canllawiau hyn
yn seiliedig ar arbrawf ymchwil cyfyngedig (https://academic.oup.com/cid/advance-article/doi/10.1093/cid/ciaa1241/5908276
) a fesurodd ddefnynnau a anadlwyd allan wrth ganu. Nid oedd yr ymchwil wedi
ystyried y camau synhwyrol y gellir eu cymryd i leihau risg, sef camau y gall
côr y Bont-faen a chorau eraill eu cymryd.
Dangosodd
ymchwil a gyhoeddwyd gan Brifysgol Lund ym mis Medi 2020 (https://www.scientaily.com/releases/2020/09/200908101621.htm)
fod mesurau atal yn peri i’r allyriadau gronynnau a gynhyrchir trwy ganu ostwng
i’r un lefel â siarad yn normal.
Ni
fydd corau fel côr y Bont-faen yn gallu parhau i ymarfer yn yr awyr agored yn
ystod misoedd y gaeaf sydd i ddod; dylid caniatáu iddynt ymarfer dan do mewn
grwpiau o 15 os ydyn nhw’n cymryd camau atal heintiau.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 26/01/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/12/2020