P-05-1088 Dylid sbarduno is-etholiad ar gyfer Aelodau sy'n dymuno newid eu hymlyniad o ran plaid
P-05-1088 Dylid sbarduno is-etholiad ar gyfer Aelodau sy'n dymuno newid eu hymlyniad o ran plaid
P-05-1088 Dylid sbarduno
is-etholiad ar gyfer Aelodau sy'n dymuno newid eu hymlyniad o ran plaid
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Bleddyn Rhys Williams, ar ôl casglu cyfanswm
o 372 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yn nhymor diweddaraf y Senedd, mae nifer fawr o Aelodau o’r Senedd wedi
newid eu hymlyniad gwleidyddol. Mae hon yn ffordd annemocrataidd i Aelodau
ddatblygu eu gyrfaoedd gwleidyddol eu hunain, yn erbyn y pleidiau y cawsant eu
hethol i'w cynrychioli. Pan fydd unrhyw Aelod yn dymuno newid ei ymlyniad
gwleidyddol, dylid mynd â’r mater at bobl ei etholaeth. Nid democratiaeth yw
hyn, a gall arwain at gyflwyno syniadau / pleidiau peryglus i'r Senedd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
26/01/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac yn sgil yr ymateb a gafwyd, pa mor agos
yw etholiad nesaf y Senedd a'r ffaith y byddai’n amhosibl, o ganlyniad, i roi
newid o'r fath ar waith ar ffurf deddfwriaeth sylfaenol ar yr adeg hon,
cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 26/01/21.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dyffryn Clwyd
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2021