P-05-1090 Diogelwch ar y ffyrdd: Gostwng y terfyn cyflymder ar gefnffordd yr A487 i 20 milltir yr awr drwy Benparcau, Aberystwyth
P-05-1090 Diogelwch ar y ffyrdd: Gostwng y terfyn cyflymder ar gefnffordd yr A487 i 20 milltir yr awr drwy Benparcau, Aberystwyth
P-05-1090 Diogelwch ar y ffyrdd: Gostwng y terfyn
cyflymder ar gefnffordd yr A487 i 20 milltir yr awr drwy Benparcau, Aberystwyth
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Dylan Wilson-Lewis, ar ôl casglu cyfanswm o 335 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Byddai
gostwng y terfyn cyflymder ar gefnffordd yr A487 i 20 milltir yr awr yng
nghymuned drefol boblog Penparcau, sy’n gartref i dros 1,000 o blant, sef y
nifer uchaf yng Ngheredigion, yn gwella diogelwch, yn hyrwyddo llesiant ac yn
hybu cynaliadwyedd drwy annog pobl i wneud dewisiadau amgen o ran teithio
llesol. Mae’r A487 yn cynnig mynediad at ysgol gynradd ac at Hwb Cymunedol
Fforwm Cymunedol Penparcau, a dyma’r unig ffordd o gael mynediad at y Swyddfa
Bost leol a siopau’r gymuned.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Ar
hyn o bryd, mae’r A487 yn rhwystr rhwng dwy ochr ardal breswyl Penparcau.
Byddai gostwng y terfyn cyflymder o 30 milltir yr awr i 20 milltir yr awr yn
galluogi plant, yn ogystal ag aelodau’r gymuned leol, i gael mynediad mwy
diogel at eu hysgol leol, at weithgareddau cymunedol (a gynhelir mewn tair
canolfan a neuadd gymunedol sydd drws nesaf i’w gilydd), at ddwy eglwys ac at
barc a man chwarae. Mae cydymffurfio â Deddf Llesiant Cymunedau’r Dyfodol yn
hanfodol, ac mae’n hollbwysig gostwng y terfyn cyflymder ar y ffordd hon i
leihau allyriadau carbon a llygredd, yn ogystal ag annog rhagor o bobl i
deithio’n llesol a defnyddio’r seilwaith feicio lleol. Byddai hyn yn gwella
diogelwch yn y gymuned, yn lleihau llygredd ac yn hybu cynaliadwyedd, a fyddai
yn ei dro yn arwain at lai o anghydraddoldeb o ran iechyd yn y gymuned leol.
Fel
ardal Cymunedau’n Gyntaf yn y gorffennol, ac fel ardal sy'n wynebu nifer sydd
yn uwch na’r cyfartaledd o ffactorau amddifadedd lluosog, dylai Llywodraeth
Cymru flaenoriaethu camau i fynd i’r afael â’r mater hwn i hyrwyddo cynhwysiant
cymunedol a threchu anghydraddoldeb.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
09/02/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. O ystyried y wybodaeth a gafwyd gan
Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gan gynnwys y datganiad y dylai’r
awdurdod lleol ymgynghori â'r gymuned ynghylch a ddylid cynnwys y rhan hon o'r
ffordd yn y rhaglen genedlaethol i osod terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn
genedlaethol, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd llawer y gallai ei wneud
ar lefel genedlaethol ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor, felly, i ysgrifennu
at y deisebydd i ddiolch iddo am godi’r mater, ac awgrymu y dylai ofyn i Gyngor
Sir Ceredigion ystyried ymateb y Dirprwy Weinidog, a chaewyd y ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/02/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2021