P-05-1093 Sefydlu Asiantaeth Gorfodi ym maes yr Amgylchedd a Bywyd Gwyllt yng Nghymru i ymdrin â throseddau amgylcheddol
P-05-1093 Sefydlu Asiantaeth Gorfodi ym maes yr Amgylchedd a Bywyd Gwyllt yng Nghymru i ymdrin â throseddau amgylcheddol
P-05-1093 Sefydlu Asiantaeth Gorfodi ym maes yr
Amgylchedd a Bywyd Gwyllt yng Nghymru i ymdrin â throseddau amgylcheddol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Robert Curtis, ar ôl casglu cyfanswm o 207 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yn
dilyn y golygfeydd dychrynllyd o daflu sbwriel, tipio anghyfreithlon a
throseddau bywyd gwyllt yn ystod cyfyngiadau Covid-19, ac wrth i’r cyfyngiadau
gael eu llacio, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu Asiantaeth Gorfodi ym
maes yr Amgylchedd a Bywyd Gwyllt yng Nghymru. Ei nod fyddai ymdrin â
throseddau amgylcheddol fel taflu sbwriel, baw ci, tipio anghyfreithlon a
gwenwyno a saethu bywyd gwyllt yn anghyfreithlon.
Mae
angen i'r swyddogion hyn gael eu hariannu gan y sector cyhoeddus drwy godi
treth ar blastigau untro a dirwyon a dylent hefyd fod yn atebol i’r sector hwn.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Lansiwyd
y ddeiseb hon ar y cyd gan Barry Action for Nature a Chyfeillion Traethau'r
Barri, sef dau grŵp amgylcheddol gwirfoddol yn y Barri. Eu nod yw creu
amgylchedd mwy diogel i bobl a bywyd gwyllt.
Maent
yn credu'n gryf bod yn rhaid sicrhau mai addysg sydd wrth wraidd yr ymdrechion
i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol a bywyd gwyllt, sy’n fygythiad
cynyddol, ond maent hefyd yn sylweddoli bod angen rhyw fath o orfodaeth ar
frys.
Ni
allwn ddibynnu ar awdurdodau lleol sy’n hynod brin o arian i ddarparu'r
gwasanaeth hanfodol hwn ar eu pennau eu hunain. Mae angen defnyddio’r un grym
yn gyson drwy Gymru gyfan gan ddangos bod y cyhoedd yn pryderu’n gynyddol am
droseddau amgylcheddol a bywyd gwyllt.
Ni
ddylem orfod dibynnu ar gwmnïau preifat i ddarparu'r gwasanaeth hwn gan mai eu
hamcan canolog nhw yw gwneud elw.
Gall
cosbau penodol neu gosbau cryfach fod yn ddull gorfodi effeithiol wrth frwydro
yn erbyn y broblem gynyddol hon ac atal pobl rhag troseddu yn y maes hwn.
Credwn y byddai poblogaeth Cymru yn croesawu gorfodaeth gref ac effeithiol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
26/01/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn sgil cefnogaeth y deisebydd i
gyhoeddiad arfaethedig y Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon at
ddibenion ymgynghori – a'r tebygolrwydd na fyddai'n gallu gwneud cynnydd
pellach ar y mater a godwyd gan y ddeiseb ar yr adeg hon – cytunodd i gau'r
ddeiseb a diolch i'r deisebydd. At hynny, cytunodd y Pwyllgor i rannu barn y
deisebydd gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 26/01/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2021