P-05-1108 Cyhoeddi canllawiau a chynllun talebau i achub gweithgarwch y sector babanod a phlant bach yng Nghymru
P-05-1108 Cyhoeddi canllawiau a chynllun talebau i achub gweithgarwch y sector babanod a phlant bach yng Nghymru
P-05-1108 Cyhoeddi canllawiau a chynllun talebau i achub
gweithgarwch y sector babanod a phlant bach yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Rebecca Edmonds, ar ôl casglu cyfanswm o 91 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yn
dilyn y ddeiseb ar gyfer y sector hwn yn Lloegr, rydym ni yng Nghymru am gael
yr un eglurder a chanllawiau!
Mae
grwpiau babanod a phlant bach yn hanfodol i lesiant rhieni newydd sy’n ysu
iddynt ddychwelyd ar ôl y cyfyngiadau symud. Mae darparwyr yn cael trafferth i
ailagor oherwydd canllawiau anghyson. Rydym yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi
canllawiau wedi'u targedu a chynllun talebau ar gyfer y sector hwn sy'n cael ei
anwybyddu.
Bydd
canllawiau pwrpasol yn galluogi busnesau i ddychwelyd ac yn achub rhieni newydd
rhag cyfnod estynedig o ynysu.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Ni fydd llawer o rieni yn gallu fforddio
dosbarthiadau sy’n ddiogel o ran covid, tra bod Canolfannau Plant yn dal ar
gau. Byddai cynllun talebau yn helpu'r sector i adfer ac yn cefnogi iechyd
meddwl ôl-enedigol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
09/02/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac o ystyried yr ymateb a gafwyd gan y
Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, roedd modd cynnal gweithgareddau
a oedd wedi'u trefnu ar gyfer plant ac eithrio pan oedd lefel rhybudd pedwar ar
waith. Roedd y canllawiau perthnasol wedi'u cyhoeddi, a chytunwyd i gau'r
ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/02/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pontypridd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/01/2021