P-05-1116 Rhowch flaenoriaeth i bobl ag anabledd dysgu gael eu brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru

P-05-1116 Rhowch flaenoriaeth i bobl ag anabledd dysgu gael eu brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1116 Rhowch flaenoriaeth i bobl ag anabledd dysgu gael eu brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan John Gillibrand, ar ôl casglu cyfanswm o 1,913 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Gyda'r newyddion mawr bod brechlyn COVID wedi'i gymeradwyo ac y bydd yn dechrau cael ei gyflwyno'n fuan - mae'n hanfodol cael hyn yn gywir. Nid yw'r rhestr bresennol o’r rhai a fydd yn cael eu brechu gyntaf yn rhoi blaenoriaeth i bobl ag anableddau dysgu - er ei bod CHWE GWAITH yn fwy tebygol y byddant yn marw o’r coronafeirws yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr (nid yw ystadegau Cymru wedi'u cyhoeddi eto). Hyd yn oed yn waeth, mae'r rhai ag anableddau dysgu rhwng 18 a 34 oed 30 gwaith yn fwy tebygol o farw.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Rwyf wedi dechrau'r ddeiseb hon i bobl ag anableddau dysgu gael eu cynnwys yn rhestr y rhai â blaenoriaeth oherwydd fy mod yn ofni dros fy mab. Mae'n oedolyn ifanc sy'n byw mewn gofal amser llawn - pe bai'r coronafeirws yn lledaenu i'r cartref gofal, gallai fod yn ddinistriol iddo, ac eraill ag anableddau dysgu y mae'n byw gyda hwy, ac ar draws y DU.

Mae angen i ni sicrhau y caiff y grŵp hwn ei ddiogelu ac rwyf am weld rhestr o’r rhai sydd â blaenoriaeth ar gyfer brechu sy’n ystyried y rhai â chyfraddau marwolaethau uwch o COVID-19.

Dylai pobl hŷn gael eu brechu gyntaf, ond dim ond chweched ar y rhestr yw pobl, fel fy mab, y mae'r feirws yn risg fawr iddynt - does bosib bod arnom angen strategaeth wedi'i thargedu'n well wrth ddechrau'r cynllun brechu?

Llofnodwch fy neiseb fel na chaiff pobl ag anableddau dysgu eu hanghofio wrth i’r goleuni ym mhen draw'r twnnel ddod i’r golwg.

 

 

blue and white plastic bottle

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd y blaenoriaethu cynyddol a roddir yn awr i bobl ag anabledd dysgu yn y rhaglen frechu yn erbyn Covid-19. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/02/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gwyr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/02/2021