P-05-1123 Codi blaenoriaeth gweithwyr allweddol nad ydynt yn gweithio i'r GIG sy'n wynebu'r cyhoedd wrth gyflwyno'r brechlyn ar gyfer Covid-19
P-05-1123 Codi blaenoriaeth gweithwyr allweddol nad ydynt yn gweithio i'r GIG sy'n wynebu'r cyhoedd wrth gyflwyno'r brechlyn ar gyfer Covid-19
P-05-1123 Codi blaenoriaeth gweithwyr allweddol nad ydynt
yn gweithio i’r GIG sy’n wynebu'r cyhoedd wrth gyflwyno'r brechlyn ar gyfer
Covid-19
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Timothy Richard Woods, ar ôl casglu cyfanswm o 117 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rwy'n
beiriannydd telathrebu ac wedi gweithio fel gweithiwr allweddol drwy gydol y
pandemig. Fel rhan o’m swydd, mae disgwyl i mi fynd i mewn i dai dan ganllawiau
llym i gynnal gwasanaethau hanfodol megis band eang. Rai dyddiau, gallaf fynd i
mewn i eiddo tri neu bedwar cwsmer. Gyda straen newydd, mwy heintus o COVID-19
wedi’i gofnodi’n ddiweddar yng Nghymru, mae angen brechu gweithwyr allweddol
eraill y tu allan i'r GIG rhag COVID-19 yn gynnar neu maent yn wynebu risg uwch
o heintio'r cyhoedd neu ddal y feirws.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r cyngor diweddaraf a
gafwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) ynghylch ail gam y
rhaglen frechu, sef yn benodol y dylid parhau i flaenoriaethu'r rhaglen yn ôl
oedran a bregusrwydd clinigol, cytunodd nad oedd unrhyw beth y gallai gael ei
gyflawni ar y ddeiseb ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a
diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/01/2021